Bywyd Gwyllt
Adar prin, glöynnod byw unigryw … a hyd yn oed geifr gwyllt.
Beth am ddechrau gyda harddwch naturiol ein cefn gwlad a’n harfordir. Mae Dyffryn Conwy yn agor llwybr gwyrdd eang drwy’r bryniau a’r mynyddoedd, gyda rhostiroedd Mynydd Hiraethog ar y naill ochr a llethrau Eryri ar y llall.
Os ydych chi am wylio bywyd gwyllt, mae’n rhaid i chi ymweld â Mynydd Hiraethog. Mae ei ystod eang o gynefinoedd – rhostiroedd grug a choedwigoedd, llynnoedd ac afonydd yn cefnogi amrywiaeth gyfoethog o adar, planhigion ac anifeiliaid.
Edrychwch am y gwiwerod coch prin neu’r grugieir duon. Efallai y cewch gip ar walch y pysgod prin, sy’n ymweld â Llyn Brenig bob gwanwyn.
Mae adar a gwylwyr adar yn heidio i Warchodfa RSPB Conwy. Gwelwyd dros 200 o rywogaethau yma, a gyda’i rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywysedig a chyfleusterau sy’n addas i blant mae’r warchodfa yn wych i deuluoedd yn ogystal ag adaryddion.
Gwelir nifer fawr o adar hefyd yng nghysgod Coedwig Pwllycrochan ym Mae Colwyn.
Mae’r warchodfa natur leol hon yn llawn coed brodorol aeddfed a rhywogaethau egsotig. Ceir coetiroedd hynafol a Fictoraidd, ynghyd â rhostiroedd yng Nghanolfan Gadwraeth a Gwarchodfa Natur Pensychnant ar Fwlch Sychnant uwchlaw tref Conwy. Ac mae’r bywyd gwyllt ar ben y Gogarth yn Llandudno yn amrywio o eifr gwyllt i’r glesyn serennog sy’n löyn byw unigryw.
Hefyd ar glogwyni’r Gogarth gallwch weld nythfeydd o adar y môr ac allan yn y môr mae ein bywyd morwrol yn cynnwys llamhidyddion, dolffiniaid trwynbwl a morloi.