Dan Do
Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud yng ngogledd Cymru ar ddiwrnod gwlyb, neu i ddianc rhag gwres yr haul? Mae gan Sir Conwy rywbeth i bawb! Beth bynnag y tywydd a’r tymor, fe gewch hyd i amrywiaeth o atyniadau dan do sy’n siŵr o greu atgofion melys iawn.
Glaw neu hindda, mae Sir Conwy yn llawn o anturiaethau cyffrous a llefydd diddorol i ymweld â nhw. O weithgareddau llawn adrenalin i encilfeydd diwylliannol a thawel, mae gan ein hatyniadau dan do rywbeth i bob oed, diddordeb a lefel egni.
Os ydych chi’n chwilio am antur gyffrous, mae gan Adventure Parc gyrsiau rhwystrau uchel, llithrennau mawr, llwyfannau neidio a waliau dringo mewn lleoliad dan do enfawr. Am antur fythgofiadwy a gwahanol i’r arfer, ewch o dan y ddaear gyda Go Below Adventures. Gyda chymorth arweinydd cymwys, byddwch yn abseilio, yn gwibio ar wifrau ac yn sgramblo drwy ogofau llechi sy’n datgelu byd cudd, neu beth am aros dros nos a mwynhau profiad unigryw’r Deep Sleep?
Os oes gennych chi ddant melys mae’r Llandudno Chocolate Experience yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod hanes diddorol siocled drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol – sydd wrth fodd teuluoedd ac unigolion chwilfrydig fel ei gilydd.
Camwch yn ôl mewn amser yn Amgueddfa Home Front Llandudno, lle mae’r arddangosfeydd yn dod â bywyd bob dydd yr Ail Ryfel Byd yn fyw o flaen eich llygaid. Mae’r arteffactau gwreiddiol, yr ystafelloedd difyr a’r straeon diddorol yn cynnig mewnwelediad pwerus i orffennol Prydain adeg y rhyfel.
Mae Sir Conwy hefyd yn dathlu creadigrwydd a diwylliant. Archwiliwch amgueddfeydd lleol neu ewch am dro i oriel gelf, fel Oriel MOSTYN a Ffin y Parc yn Llandudno.
Am fwy o wybodaeth neu gymorth i drefnu’ch ymweliad, mae timau ein Canolfannau Croeso yn Llandudno a Chonwy yn barod iawn eu cymwynas.