Penmaenmawr
Mae Penmaenmawr yn bentref glan môr traddodiadol, hamddenol gyda phromenâd hir, traeth tywodlyd llydan a machlud hardd ar draws Bae Conwy. Gyda golygfeydd yn ymestyn draw i Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae’n fan cychwyn arfordirol tawel gyda mynediad hawdd at lwybrau cerdded, hanes ac anturiaethau awyr agored.
-
Mae’r promenâd yn cynnig profiad clasurol o lan y môr, ynghyd â phwll padlo, maes chwarae, cytiau traeth traddodiadol a pharc sglefrio modern. Mae’r traeth eang yn ddelfrydol ar gyfer diwrnod i’r teulu, yn codi cestyll tywod a chwaraeon dŵr ac mae clwb hwylio llwyddiannus i’r rhai sy’n awyddus i fynd allan ar y dŵr.
-
Mae Penmaenmawr hefyd yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded. Mae llwybrau’n arwain i’r mynyddoedd o amgylch, gan ddilyn hen ffyrdd Rhufeinig a phasio safleoedd hanesyddol yn cynnwys caer o Oes yr Haearn, Meini Hirion (yn dyddio i tua 1500 CC) a gweddillion chwarel bwyeill Neolithig, sydd wedi cael eu darganfod ym mhob cwr o Brydain.
Am daith gofiadwy yn y car, ewch i fyny ffordd droellog Bwlch Sychnant, yr hen ffordd oedd yn cysylltu Penmaenmawr â Chonwy drwy weundiroedd llwm a golygfeydd dramatig.
-
Yn y pentref, mae Amgueddfa Penmaenmawr yn dod â stori’r ardal yn fyw gydag arteffactau cynhanesyddol ac o’r Oes Efydd ac arddangosfeydd yn darlunio twf y dref yn ystod oes aur y chwareli yn y 19eg ganrif.
Gerllaw, mae Parc Plas Mawr yn cynnig gerddi heddychlon, coetir a mannau perffaith ger y llyn i ddarllen neu ymlacio. Mae’r sylfeini yn y parc yn nodi cyn gartref y teulu Darbishire, cyn berchnogion Chwarel Penmaenmawr.
Gall golffwyr fwynhau cwrs lleol â golygfeydd godidog o’r môr, sy’n ysbrydoli ar y naill law ac yn tynnu sylw ar y llall.
-
Defnyddiwch y chwiliadur isod i ddod o hyd i lety, atyniadau a digwyddiadau ym Mhenmaenmawr.
Os oes arnoch angen help i gynllunio’ch taith, ffoniwch 01492 577577.