Llwybrau Bysiau yn Sir Conwy
Mae gwasanaethau bws yn gweithredu ar hyd a lled Sir Conwy, gan gynnig ffordd gyfleus o deithio rhwng trefi, pentrefi a chefn gwlad heb gar. Mae rhai gwasanaethau’n cysylltu â gorsafoedd trên, er mwyn gallu cyfuno teithiau ar fws a thrên.
Mae argaeledd ac amlder yn amrywio yn dibynnu ar y llwybr a’r tymor.
Fflecsi - Dyffryn Conwy
Mae fflecsi yn wasanaeth bws hyblyg, y gellir ei archebu sy’n gweithredu yn Nyffryn Conwy, gyda’r bwriad o gefnogi teithio mewn ardaloedd gwledig.
- O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 6.30am i 7pm.
- Mae’n gwasanaethu ardaloedd sy’n cynnwys Llanrwst, Betws-y-coed, Corwen, Penmachno a Llangernyw (ar ddyddiau gwahanol).
- Mae’n cynnig codi a gollwng yn unrhyw le ar hyd y llwybr.
- Rhaid archebu teithiau ymlaen llaw
Gellir archebu drwy’r ap fflecsi, gwefan fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300. Mae prisiau taith sengl i oedolion yn dechrau o £1.
Llwybrau ac Amserlenni
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bysiau, amserlenni, gwasanaethau tymhorol a’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio, ewch ar wefan Arriva, gwefan y Gwasanaethau Bws yng Nghonwy, neu mae amserlenni ar gael yn y Canolfannau Croeso.
Cyn Teithio
Dylai ymwelwyr wirio llwybrau ac amserlenni ymlaen llaw, yn enwedig wrth deithio mewn ardaloedd gwledig neu y tu allan i’r cyfnod brig.
Ar gyfer ffyrdd eraill o deithio o gwmpas y sir, yn cynnwys ar drên neu mewn car, ewch i’r adran Mynd o le i le.