Pentrefi Dyffryn Conwy

Mae Dyffryn Conwy’n ardal wledig llawn gwyrddni sy’n gorwedd rhwng copâu creigiog Eryri a rhostir agored Mynydd Hiraethog. Mae’n ardal â naws arbennig: glannau afonydd tawel, ffermdir, bryniau coediog a chadwyn o bentrefi braf sy’n werth mynd i grwydro ynddynt.