Awyr Dywyll

Mae syllu i'r gofod di-ben-draw gyda'i leuadau a'i blanedau, ei sêr a'i alaethau yn brofiad cwbl ryfeddol.

Ond yn aml iawn nid yw'n ddigon tywyll i weld llawer. Mae llygredd golau mewn trefi a dinasoedd yn gwneud awyr y nos yn llai clir.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae syllu ar sêr – a oedd yn arfer bod yn faes arbennig ar gyfer seryddwyr a gwylwyr rhaglen y BBC Sky at Night - wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Ond mae angen Awyr Dywyll arnoch i allu gwneud hynny’n iawn.

Dyma sut y gallwn ni helpu. Mae Cymru, sy’n wlad wledig yn bennaf gydag ychydig o grynodiadau o boblogaeth fawr, yn un o’r lleoliadau tywyllaf yn Ne Prydain sy’n creu amodau delfrydol ar gyfer archwilwyr y gofod. Fel y disgrifiodd Dylan Thomas yn ‘Dan y Wenallt’, gall yr awyr yng Nghymru fod ‘cyn dywylled â’r Beibl'.

Mae hyn yn bendant yn wir yn Sir Conwy. Ar noson ddi-gwmwl i fyny ar ein bryniau a’n mynyddoedd cewch eich amgylchynu gan flanced o dduwch sy’n arddangos sioeau golau wybrennol rhyfeddol. Mae’n rhywbeth y gallwch ei werthfawrogi bron yn unrhyw le.

Dyma rai o’n hoff leoliadau:

Cyngor i archwilwyr y gofod

Nid oes angen offer arbenigol na drud arnoch chi. Yn aml bydd eich llygaid neu finocwlars yn ddigon.

Wrth edrych tua'r de, yn dibynnu ar y tymor, gallwch weld Orion yr Heliwr, yr Efeilliaid, Siriws, y Saith Chwaer, Triongl yr Haf, yr Alarch, sgwâr Pegasws a'r Llwybr Llaethog (ein galaeth ni ein hunain). 

Wrth edrych tua’r gogledd, mae’r sêr yr un fath trwy gydol y flwyddyn, felly gallwch eu gweld yn hawdd ar noson glir. Mae’r grŵp o sêr o'r enw'r Aradr yn arbennig o hawdd i'w hadnabod. Y lleill yw Cassiopeia ac, wrth gwrs, Seren y Gogledd (neu Polaris).