Cestyll
Mae Gogledd Cymru’n enwog am amddiffynfeydd aruthrol Edward I o Loegr, a adeiladwyd i orchfygu gwlad anniddig, ond mae’r stori’n un ddyfnach. Yng Nghastell Dolwyddelan, cadarnle Llywelyn Fawr, tarodd tywysogion Cymru yn ôl o fynyddoedd Eryri. Yng ngweddillion Castell Deganwy mae grym hynach fyth yn atseinio, tra bo Castell Gwydir yn adlewyrchu dyhead a choethni Tuduraidd. Ac yn ymgodi uwchlaw’r aber, mae Castell Conwy yn dal i sefyll fel arwydd o orchfygiad a gwytnwch go iawn.