Ffordd y Gogledd: Tirweddau a Golygfeydd

Mae Ffordd y Gogledd, sy'n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua'r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy'n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob 'Ffordd' ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i'ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwn yn eich tywys i rai o'r tirweddau mwyaf cofiadwy a'r golygfeydd mwyaf ysbrydoledig sydd i'w gweld ar Ffordd Gogledd Cymru ac o'i chwmpas; yn cynnwys bylchau mynyddig dramatig, clogwyni arfordirol creigiog, pensaernïaeth hanesyddol a dyffrynnoedd afon gleision.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith yng Nghastell canoloesol y Fflint, a saif ar y lan lle mae'r Ddyfrdwy yn lledu ar ei ffordd tua'r môr. Hwn oedd y castell cyntaf i Edward y Cyntaf ei adeiladu yng Nghymru, ac mae'n dynodi'r porth i Ogledd Cymru.

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 yn rhedeg yn syth trwy'r Fflint. Golyga hyn y gallwch feicio tua'r dwyrain i gyfeiriad Caer ar hyd glannau'r Ddyfrdwy, neu ddilyn arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad y gorllewin.  Yn y rhanbarth hon y ceir rhai o draethau gorau Gogledd Cymru, i'r sawl sydd am drochiad ysgafn a'r rhai hynny sydd am wneud y mwyaf o'r tonnau fel ei gilydd. Dewch oddi ar eich beic pan gyrhaeddwch chi Gaergybi, fodd bynnag, neu fe fyddwch yn wlyb at eich croen. www.walkwheelcycletrust.org.uk/

Dilynwch wedyn drywydd hardd yr A494 trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i Rhuthun, a ddisgrifiwyd fel tref fechan mwyaf hudolus Cymru. Ewch yn eich blaen wedyn ar yr A525/A542 trwy Fwlch yr Oernant i Langollen ac ymlaen i'r Waun. Gyda chopaon ei bryniau yn borffor o flodau'r grug, ei bryngeiri Oes yr Haearn a safleoedd hanesyddol megis Abaty Glyn y Groes a Chastell y Waun, mae'r ffordd hon yn llawn dop o olygfeydd cerdyn post. Treuliwch beth amser hefyd i ddarganfod rhamant a heddwch Dyffryn Ceiriog, perl cudd o ddyffryn i'r gorllewin o Gastell y Waun, lle mae Afon Ceiriog yn llifo i'r Ddyfrdwy o 1,800 troedfedd / 548m uwchlaw lefel y môr trwy gyfres o raeadrau rhuthrol.

Awgrym i aros dros nos: Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Diwrnod 2

Ewch yn eich hôl i Langollen, cyn gyrru trwy Ddyffryn godidog Clwyd tua'r arfordir i ymweld â Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel, sy'n gartref i lu o adar, planhigion morol prin ac hyd yn oed ambell forlo.

Ewch ar hyd ffordd arfordirol yr A55 heibio i Fae Colwyn a dilyn yr A470 ar hyd Ddyffryn Conwy i un o drysorau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gardd Bodnant, lle cewch hyd i lewntydd cymen, terasau blodeuog, glynnoedd gwylltion a choed enfawr.

A view of the Laburnam Arch in bloom at Bodnant Garden

Croeswch yr afon i yrru ar ffordd droellog y B5106 i Gonwy cyn dringo Bwlch Sychnant, un o dirnodau syfrdanol ond llai adnabyddus Gogledd Cymru.

Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Benmaenmawr.

Diwrnod 3

Dilynwch yr arfordir i Fangor, cyn cael blas ar Barc Cenedlaethol Eryri trwy yrru oddi wrth y môr ar yr A5 - llwybr hanesyddol a beiriannwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - ar hyd Dyffryn Ogwen ddirgel i Gapel Curig.  Ewch yn eich blaen ar yr A4086 trwy dirwedd cyntefig, creigiog Bwlch Llanberis, gyda'r Wyddfa wrth eich hochr, ac anelu am Lanberis a Chaernarfon cyn dychwelyd i Fangor.

Mae'n werth oedi i gymryd tro ar y pier Fictoraidd hyfryd ym Mangor i weld golygfeydd hyfryd o'r Fenai, cyn gyrru dros Bont Britannia i Ynys Môn.  Anelwch am eglwys wyngalchog San Cwyfan ('Yr Eglwys yn y Môr'), a saif ar ei hynys fach ei hun, nad oes modd cael mynediad ati oni bai am lanw isel.  Mae'n leoliad heddychlon, braf ar yr arfordir gogledd-orllewinol ger Aberffraw. Ymlaen â chi wedyn i Oleudy eiconig Ynys Lawd ger Caergybi (dewch â'ch binocwlars ar gyfer y golygfeydd syfrdanol a'r myrdd o adar), cyn mynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Porth Llechog a Bae Cemaes.

Awgrym i aros dros nos: Porth Llechog neu Fae Cemaes.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl i'r tir mawr cyn gyrru ar hyd glan y Fenai, trwy Gaernarfon, ac ymlaen i Benrhyn gwyllt a gwych Llŷn. Mae'r Ardal hon o Harddwch Naturiol Eithriadol, sy'n rhimynnog o glogwyni môr aruthrol, baeau paradwysaidd a phentiroedd gwyntog, yn llawn hyd ei hymylon o ogoniant arfordirol.

Awgrym i aros dros nos: Abersoch.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Mae'n Antur

Profwch antur ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, gyda llwybrau arfordirol, mynyddoedd, gweithgareddau awyr…