Ffordd y Gogledd: Cam Wrth Gam
Mae Ffordd y Gogledd, sy'n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua'r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy'n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob 'Ffordd' ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i'ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.
Boed yn heiciwr heini neu'n rhodiwr hamddenol, mae'r rhaglen bedwar diwrnod hon yn cyflwyno'r llefydd gorau i fynd i gerdded ar Ffordd y Gogledd ac o'i chwmpas. Ewch am dro trwy fylchau mynyddig dramatig, parciau gwledig, fforestydd a gwarchodfeydd natur.
Diwrnod 1
Dechreuwch eich taith trwy fynd am dro o amgylch Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon, lle mae rhwydwaith o lwybrau yn datgelu nentydd, llynnoedd a choetiroedd brith, ynghyd â chofebion hanesyddol a maes chwarae awyr agored enfawr i ymwelwyr iau.
Mae Parc Gwledig Gwepra yn ymestyn dros 160 erw o goetir hynafol. Mae ganddo byllau, rhaeadrau a dolydd blodeuog. Ym 1257, cododd Llywelyn ein Llyw Olaf gastell yng nghornel y coetir hwn. Mae Castell Ewlo yno hyd heddiw, yng nghanol y coed, ac wedi ei leoli lai na milltir o faes parcio Parc Gwepra.
Ymlaen â chi wedyn i Barc Gwledig Loggerheads, sydd wedi ei wasgu rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, i gymryd tro ar hyd y llwybrau wedi'u harwyddo sy'n datgelu tirwedd o ddyffrynnoedd coediog, creigleoedd garw, a chlogwyni blaenllym.
Mae Coed Plas Power a Choed Melin y Nant ger Wrecsam yn cynnwys 104 erw / 42 hectar o goetir, cors a glaswelltir hynafol, sy'n gartref i ystod liwgar o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn cynnwys glas y dorlan, boneddiges y wig (orange tip butterfly) a gwyddfid peraroglus. Os yw amser yn caniatáu, dilynwch arwyddion Llwybr Clywedog i lawr yr afon i Erddig, sydd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n esiampl o blasty sy'n dangos y gwahaniad rhwng y teulu ar un llawr a'r gweision ar lawr arall, ac yn cynnwys gerddi ysblennydd a gŵyl afalau bob hydref.
Diwrnod 2
Dilynwch yr A5 i Fetws-y-Coed, cyn cymryd y B5106 trwy Ddyffryn Conwy i Drefriw a dringo'r ffordd gefn at unigedd Llyn Crafnant. Cewch dri llwybr wedi eu harwyddo ar lannau'r llyn uchel hwn, yn amrywio o dro byr a hygyrch trwy goetiroedd i drywydd hirach sy'n dringo i gynnig golygfeydd pell dros Eryri, ei mynyddoedd a'i choedwigoedd.
Dychwelwch at y B5106 a throi am Gonwy i ddarganfod y rhwydwaith o lwybrau sy'n igam-ogamu dros gopa Mynydd Conwy, gan chwilio am olion bryngeiri o Oes yr Haearn wrth i chi fynd. Ewch yn eich blaen i Landudno i gerdded i gopa'r Gogarth, mynydd bychan a garw sy'n ferw o fywyd gwyllt, ac sy'n dominyddu'r wybren uwchlaw'r gyrchfan glan môr ddeniadol hon.

Awgrym i aros dros nos: Llandudno.
Diwrnod 3
Gyrrwch ar hyd yr arfordir i Abergwyngregyn i fynd ar gylchdaith Rhaeadr Fawr, llwybr 4.5 milltir / 7.5km i'r teulu cyfan trwy ddyffryn hardd at y rhaeadr trawiadol.
Croesi'r Fenai i Langefni sydd nesaf, gydag ymweliad â Gwarchodfa Natur Nant y Pandy. Dyma ddyffryn coediog serth sy'n gartref i was y neidr symudliw, glas y dorlan asur, a'r wiwer goch chwareus. Rhowch gynnig ar y ras wythnosol yn y parc, sy'n her hyd yn oed i'r rhedwyr mwyaf brwd. Parc Gwledig y Morglawdd ar yr arfordir gogledd-orllewinol yw eich cyrchfan olaf ar Ynys Môn. Hen chwarel yw'r parc, sy'n cynnwys llwybrau cerdded heibio i arfordir creigiog, llynnoedd, clogwyni a choetiroedd - a hyn oll dafliad carreg yn unig o borthladd prysur Caergybi.
Awgrym i aros dros nos: Caergybi neu Fae Trearddur.
Diwrnod 4
Ewch yn ôl am y tir mawr a gyrrwch i Lanberis trwy Gaernarfon. Oddi yma, dim ond un ffordd sydd i chi fynd, sef i Gopa'r Wyddfa ar Lwybr Llanberis. Dyma'r llwybr hiraf a'r mwyaf graddol o'r chwe llwybr i'r copa (mae'n 9 milltir / 14.5km i gerdded yno ac yn ôl).
Os yw hynny'n codi awydd am fwy, gyrrwch trwy Fwlch Llanberis (lle bu'r tîm cyntaf i goncro Mynydd Everest yn ymarfer) i gerdded cylchdaith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan, gan gychwyn o Nantmor ger Beddgelert. Byddwch yn mynd heibio i rai o olygfeydd hyfrytaf Eryri, gan ymgolli yn harddwch Bwlch Aberglaslyn, pentref Beddgelert a dyfroedd tawel Llyn Dinas.
Awgrym i aros dros nos: Beddgelert.
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi
Mae'n Antur
Profwch antur ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, gyda llwybrau arfordirol, mynyddoedd, gweithgareddau awyr…
Taith Ddiwylliannol
Archwiliwch Ffordd Gogledd Cymru, taith ddiwylliannol drwy drefi hanesyddol, tirweddau hardd a…
Tirweddau a Golygfeydd
Darganfyddwch y tirweddau syfrdanol ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, o fynyddoedd dramatig i…
Ar Drywydd Bwyd a Diod
Dilynwch Lwybr Bwyd a Diod Ffordd Gogledd Cymru a mwynhau blasau lleol, cynhyrchwyr crefft…
Trefi a Phentrefi
Archwiliwch drefi a phentrefi swynol ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, pob un yn cynnig treftadaeth…
Taith Golff
Darganfyddwch Daith Fawr Golffio Ffordd Gogledd Cymru, gyda chyrsiau arfordirol trawiadol…
Cestyll a Mannau Hanesyddol
Archwiliwch gestyll a lleoedd hanesyddol Ffordd Gogledd Cymru, o gaerau mawreddog i henebion hynafol…