Yr Arfordir a Chefn Gwlad
Mae Sir Conwy yn cynnig cymysgedd cyfoethog o arfordir a chefn gwlad, gan ddod â golygfeydd godidog, gweithgareddau awyr agored a synnwyr cryf o dreftadaeth at ei gilydd.
O draethau euraid i fynyddoedd mawreddog a llwybrau hanesyddol, mae’r ardal yn cynnig lle i archwilio, ymlacio ac ailgysylltu â natur.
Mae’r arfordir yn nodwedd arbennig, gydag amrywiaeth o draethau, o draethau tywodlyd hir ac agored i faeau tawelach, mwy cysgodol. Mae’r ardaloedd arfordirol hyn yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, treulio amser gyda’r teulu neu fwynhau golygfeydd o’r môr ac awyr iach. Ewch i fyny llwybr y Gogarth i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Llandudno!
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy Sir Conwy, gan gynnig mynediad parhaus ar hyd yr arfordir ac yn cysylltu traethau, promenadau a phentiroedd a golygfeydd ymhell ar draws Môr Iwerddon.
Yn y wlad, mae’r dirwedd yn wyrddach ac yn fwy amrywiol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r Rhaeadr Ewynnol, ble mae llwybrau drwy goetiroedd yn arwain at raeadrau dramatig ar hyd Afon Llugwy.
Ar Fryniau Hiraethog, mae rhostir agored ac awyrgylch tawel, sy’n ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded hir ac ymdeimlad o ddihangfa.
Gerllaw, mae haen arall o harddwch naturiol yng Nghoedwig Alwen, gyda llwybrau heddychlon drwy goetiroedd, teithiau cerdded ar hyd glan yr afon a llwybrau cysgodol sy’n berffaith ar gyfer ymchwilio’n hamddenol braf.