Bae Colwyn

Ym Mae Colwyn, mae hwyl clasurol glan y môr yn cwrdd ag egni arfordirol ffres. Beth am dreulio diwrnodau heulog ar y traeth tywodlyd eang yn adeiladu cestyll tywod, padlo yn y dŵr bas a mwynhau hufen iâ traddodiadol ar hyd y promenâd.

Mae’r llwybr tair milltir ar hyd glan y môr yn ymestyn allan yn hardd gan eich gwahodd i gerdded neu feicio a mwynhau golygfeydd di-dor o’r bae, gan arwain at bentref cyfagos Llandrillo-yn-Rhos.

Mae’r pier hanesyddol yn ychwanegu nostalgia braf i’r draethlin, ac mae cerflun Terry Jones yn deyrnged hyfryd i’r eicon o Monty Python a’r seren lleol.

Ym Mhorth Eirias, sydd wedi ennill gwobrau, gallwch gymryd seibiant gyda bwyd gwych wrth edrych dros y dŵr, ac mae Parc Eirias yn cynnig man gwyrdd i grwydro, cael picnic neu wylio digwyddiad chwaraeon yn Stadiwm CSM.

Am noson allan, beth am drefnu sioe neu daith i’r sinema yn Theatr Colwyn - theatr a sinema weithredol hynaf Cymru, sy’n cynnig awyrgylch croesawgar.

Yn uchel uwchben y dref, mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cynnwys llewpardiaid, pandas coch a theigrod Swmatra, a golygfeydd arbennig ar draws y bae - diwrnod allan gwyllt ym mhob ystyr.