Natur ac Awyr Dywyll

Mae Sir Conwy yn lleoliad lle mae natur yn parhau i arwain y ffordd. O rostir agored a choetiroedd hynafol i arfordir dramatig a dyffrynnoedd tawel, dyma dirwedd sydd wedi ei lunio gan amser, bywyd gwyllt a’r elfennau.

P’un ai a ydych chi’n hoff o rywogaethau prin, teithiau cerdded heddychlon neu’r pleser o edrych ar awyr sy’n gwbl dywyll yn y nos, mae Conwy yn cynnig lle i anadlu ac i archwilio.

Yn ystod y dydd, mae Dyffryn Conwy yn ymestyn yn wyrdd a ffrwythlon rhwng ucheldir garw Mynydd Hiraethog a llethrau Eryri, gan gefnogi amrywiaeth nodedig o gynefinoedd.

Mae’r tirweddau hyn yn gartref i adar prin, glöynnod byw a mamaliaid, o wiwerod coch a’r grugiar ddu i adar y môr, morloi a hyd yn oed geifr gwyllt.

Mae gwarchodfeydd natur, coetiroedd a phenrhynau arfordirol yn darparu cyfleoedd cyfoethog sy’n addas ar gyfer y teulu i wylio bywyd gwyllt, dysgu a darganfod.

Yn y nos mae Conwy’n datgelu rhyfeddod arall. Yn bell o oleuadau’r ddinas mae’r awyr yma yn ddwfn a thywyll ac yn agor ffenestr ar y sêr, y planedau a’r galaethau yn y pellter.

Ar nosweithiau clir fe ddaw’r bryniau, y llynnoedd a’r rhostiroedd pellennig yn seddi rhes flaen ar gyfer arddangosfeydd wybrennol bythgofiadwy.

Gyda’i gilydd mae bywyd gwyllt ac awyr dywyll Conwy yn cynnig cyfle prin i ailgysylltu - gyda natur, gyda thawelwch a gydag ehangder y byd o’n cwmpas.

Ewch ati i ddarganfod mwy am fywyd gwyllt a thirweddau Conwy , neu ewch ati i archwilio beth sy’n gwneud ein hawyr dywyll mor arbennig...