Gwasanaethau iechyd i ymwelwyr

Rydym eisiau i bawb sy’n dod i ymweld â ni fwynhau eu hamser yn Sir Conwy, i aros yn iach ac yn ddiogel.

Pan fyddwch yn dod i ymweld, cofiwch ddod â chyflenwad o unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd yn rheolaidd gyda chi. Gall gymryd amser i dderbyn presgripsiwn amlroddadwy, ac mae’n cynyddu’r galw ar wasanaethau iechyd lleol.

Os cewch eich taro’n wael neu os cewch ddamwain, helpwch ein gwasanaethau GIG lleol trwy roi’r cymorth gorau posibl drwy ddefnyddio gwasanaeth iechyd cywir ar yr adeg cywir. 

Fferyllfeydd Cymunedol

Eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor iechyd arbenigol – gwasanaeth er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth ar gyfer nifer o gyflyrau iechyd cyffredin, gan gynnwys bresgripsiynau rheolaidd.

GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a mae’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer problemau meddygol and ydynt yn rhai brys ar-lein neu thros y ffôn.

Unedau Mân Anafiadau

Mae Unedau Mân Anafiadau yn ei gwnued yn hawdd I dderbyn triniaeth ar gyfer anafiadau and ydynt yn rhai difrifol neu’n bygwth bywyd. Maent yn debyg i Ganolfannau Galw i Mewn y GIG mewn ardaloedd eraill yn y DU.

Yn Sir Conwy:
Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Hospital Road, Llandudno, Conwy LL30 1LB

Ar agor: 8am to 8pm, 7 diwrnod yr wythnos

Rhif Ffôn:  03000 850 013

Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-4pm

Adrannau Brys

Mae’r Adrannau Achosion Brys ar gyfer anafiadau neu salwch sy’n bygwth bywyd yn unig
•    Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW

Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01248 384 384
•    Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01745 583 910

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.