Lles yn Sir Conwy
Yn Sir Conwy, gall pobl arafu, anadlu’n ddwfn ac ailgysylltu â’r byd naturiol. O sba moethus i encil heddychlon yng nghefn gwlad, mae’r rhanbarth yn cynnig profiad lles cyfoethog ac ysbrydoledig i unrhyw un sy’n chwilio am seibiant, adnewyddu neu ddihangfa fyfyriol.
Cerdded, Natur a Nofio Gwyllt
Gyda milltiroedd o arfordir, mynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd hardd, mae Sir Conwy yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer lles drwy symud. Mae teithiau cerdded ysgafn drwy goetiroedd, teithiau anoddach i ben mynyddoedd a mynd am dro ar hyd yr arfordir yn caniatáu i ymwelwyr ailgysylltu â natur wrth eu pwysau. Ar gyfer y rhai anturus, mae’r rhanbarth yn cynnig mannau i nofio gwyllt yn amrywio o gildraethau cysgodol i lynnoedd tawel, pob un yn cynnig ennyd o eglurder a llonyddwch.
Awyr Iach, Heddwch a Thawelwch
Os ydych yn ymlwybro drwy ddyffrynnoedd tawel, yn ymlacio ar lan llyn neu’n mwynhau golygfeydd trawiadol, mae Conwy yn hafan i rai sy’n chwilio am awyr iach a llonyddwch. Gyda’i amrywiaeth o dirweddau naturiol, profiadau lles ac encilion adferol, mae’r sir yn cynnig y cefndir perffaith i gael eich cefn atoch yn feddyliol, yn gorfforol ac yn ysbrydol.
Archwiliwch fwy am brofiadau lles ar hyd a lled Conwy, o lwybrau cerdded myfyriol i fannau i ymlacio, sba a ioga.
The Quay Hotel and Spa
- Deganwy Quay
Ar aber Conwy, mae golygfeydd godidog o ardaloedd mwyaf hudolus Gogledd Cymru i’w gweld…
Neuadd a Sba Bodysgallen
- The Royal Welsh Way
“O’r Môr i’r Mynydd” – Mewn lleoliad diarffordd ac wedi’i…
Gwesty’r Imperial
- Vaughan Street
Mae Gwesty’r Imperial sydd wedi ennill gwobrau, gwesty Pedair Seren mwyaf Llandudno, yn…
Wave Garden Spa
- Conway Road
Ynghylch y Busnes. Wedi'i amgylchynu gan dirweddau godidog Gogledd Cymru, mae Sba ‘Wave…
Gwesty’r Royal Oak
- Holyhead Road
Hen dafarn Fictoraidd sy’n frith o waith celf ac arteffactau hanesyddol lleol sy’n…