Llety sy’n Croesawu Teuluoedd yn Sir Conwy

Sir Conwy yw’r lle perffaith am wyliau ar gyfer y teulu, mae’n cynnig dewis gwych o lety sydd wedi eu cynllunio gan ystyried moethusrwydd, cyfleustra a hwyl.

O westai arfordirol gyda golygfeydd o’r môr i fythynnod hunan‑arlwyo, parciau gwyliau a llochesau yng nghefn gwlad, fe ddewch o hyd i ddigon o leoedd lle gall y teulu cyfan ymlacio a mwyhau treulio amser gyda’i gilydd.

Gydag atyniadau cyffrous, traethau hyfryd a milltiroedd o lwybrau cerdded a beicio ar garreg eich drws, mae Conwy yn lle perffaith ar gyfer creu atgofion.

Mae sawl darparwr llety sy’n croesawu teuluoedd yn cynnig ystafelloedd eang, ardaloedd awyr agored diogel, cyfleusterau chwarae ac elfennau ychwanegol ystyriol i helpu i sicrhau bod eich gwyliau yn ddidrafferth.

Cyn archebu fe all fod yn ddefnyddiol i wybod beth mae pob llety yn ei gynnig i blant.

Dyma rai cwestiynau i’w hystyried:

Cwestiynau Defnyddiol i’w Gofyn

A yw’r ystafelloedd i deuluoedd yn ystafelloedd cysylltiol neu a oes yna got ar gael?

Yn ddelfrydol os ydych chi’n teithio gyda phlant ifanc neu angen lle ychwanegol.

A ydynt yn darparu cadeiriau uchel, bath ar gyfer babanod neu gatiau grisiau?

Yn ddefnyddiol ar gyfer plant ifanc ac i roi tawelwch meddwl.

A oes yna ardal ddiogel y tu allan lle gall plant chwarae?

Mae sawl eiddo yn cynnig mannau amgaeëdig neu ardaloedd chwarae ar y safle.

Pa ddewisiadau o ran bwyta sydd ar gael i deuluoedd?

Edrychwch i weld a oes bwydlenni ar gyfer plant, amseroedd bwyta sy’n hyblyg neu fannau gerllaw i fwyta ynddynt.

A oes yna welyau ychwanegol neu welyau soffa ar gael ar gais?

Lle bynnag rydych chi’n dewis aros mae Sir Conwy yn cynnig lle croesawgar ar gyfer eich gwyliau teuluol - yn llawn awyr iach, golygfeydd gwych ac anturiaethau ar gyfer pob oed.