Awyr Agored

Yn 2025, ymwelodd dros 9 miliwn o bobl â Sir Conwy, sef y sir a gafodd y nifer fwyaf o ymweliadau yng ngogledd Cymru. Ac mae’n hawdd gweld pam.

O anturiaethau cyffrous ar y tir i brofiadau arfordirol eiconig fel Ceir Cebl y Gogarth, mae gan Sir Conwy amrywiaeth o atyniadau sy’n troi diwrnodau yn atgofion melys a bythgofiadwy. Yma, mae pob ymweliad yn wahanol – ac mae rhywbeth newydd i’w ddarganfod bob tymor.

Yn llawn atyniadau eiconig, tirweddau dramatig a phrofiadau i’r teulu cyfan, mae’r cyrchfan bywiog yma’n cynnig cymysgedd wych o gyfaredd glan môr ac anturiaethau mynyddig. Pa un ai ydych chi’n chwilio am awel y môr neu’n mynd tua’r tir i archwilio porth Eryri, mae Sir Conwy yn addo diwrnodau allan llawn rhyfeddodau a chyffro.

Gall teuluoedd fwynhau diwrnodau allan gwych yn Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn, gyda sgyrsiau diddorol am yr anifeiliaid a golygfeydd godidog o’r Carneddau. Ac ar ddiwrnod braf o haf mae llawer o hwyl i’w gael yn y Parc Sblasio ym Mhenmaenmawr.

Os ydych chi’n chwilio am antur gyffrous yna ewch i Zip World Conwy ger Betws Y Coed, cartref i reidiau cyffrous ac anturiaethau copaon coed. Os mai byd natur sy’n mynd â’ch bryd, beth am ymweld â rhaeadr bwerus Rhaeadr Ewynnol ym Metws-y-coed, un o raeadrau enwocaf a mwyaf dramatig Cymru?

Os ydych chi wrth eich bodd ar y traeth yna mae gennym ni arfordir cyfan i chi ei ddarganfod – o Lanfairfechan a Phenmaenmawr i Benmorfa a Thraeth y Gogledd; ac mae’r Gogarth yn Llandudno yn cynnig golygfeydd godidog o’r tir a’r môr. Camwch ar Dramffordd y Gogarth neu gar cebl i gyrraedd y copa mewn steil neu beth am gerdded i fyny a mwynhau’r awyr iach?

Camwch yn ôl mewn amser yng Nghastell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Archwiliwch y muriau canoloesol, crwydrwch a strydoedd hanesyddol a galwch heibio i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain ar y cei.

Peidiwch ag oedi! Porwch drwy ein hatyniadau awyr agored, defnyddiwch yr eicon calon i amlygu’ch ffefrynnau, a dechreuwch drefnu eich diwrnodau allan yn Sir Conwy heddiw. Ac ar ôl y trefnu, y cwbl fydd arnoch chi angen ei wneud ydi pacio’ch bagiau a mwynhau popeth sydd gan Sir Conwy i’w gynnig.