Adrenalin
Mae llawer yn digwydd ar hyd a lled Sir Conwy, o ganopïau’r goedwig a thraciau rasio ceir cyflym i heriau dan ddaear a haf llawn hwyl yn y dŵr. Mae’r rhanbarth cyfan yn cynnig anturiaethau mawr a gwefr hyd yn oed yn fwy.
Dyma rai o’r profiadau llawn adrenalin y gallwch chi eu mwynhau ledled y sir, a gallwch chi ddod o hyd i ragor drwy chwilio isod…
-
Beth am siglo drwy’r coed yn Zip Word Fforest, sy’n gartref i rwydi uchel yn y coed, rhaffau uchel, Coaster Fforest a Plummet 2 - sy’n dal i fod yn un o’r cwympiadau parasiwt uchaf yn y byd. Diwrnod llawn o anturiaethau yn y goedwig ar gyfer unigolion sy’n chwilio am wefr.
-
Beth am fynd dan ddaear er mwyn profi gwefr danddaearol fythgofiadwy. Mae teithiau tywys Go Below drwy hen fwyngloddiau atmosfferig yn cyfuno abseilio, sgramblo, rhaeadrau dan ddaear, hwylio cychod a gwifrau sip ymhell dan ddaear. Mae eu llwybrau “Xtreme” yn hanfodol ar gyfer anturiaethwyr brwd.
-
Ar gyfer rhywbeth hollol wahanol, mae Mynydd Sleddog Adventures yn cynnig profiadau tywys llawn egni gyda thîm o gŵn llusgo pwerus. Yng nghanol tirwedd drawiadol Eryri, gallwch chi ddysgu gyrru eich tîm eich hun neu fwynhau taith gyffrous fel teithiwr - antur awyr agored hynod o unigryw.
-
Os ydych chi’n hoff o gyflymder, mae GYG Karting yn cynnig antur llawn adrenalin ar y gylchffordd gartio fwyaf yng Nghymru a'r Gogledd Orllewin. Mae’n ddewis da iawn ar gyfer unigolion sy’n rasio’n gystadleuol a gyrwyr sy’n gwneud hynny am y tro cyntaf gan fod ganddo gyfleusterau newydd a digwyddiadau rheolaidd sy’n denu cefnogwyr chwaraeon moduro.
-
Pan fydd y tywydd yn cynhesu, bydd Parc Dŵr Sblash yn cynnig profiadau llawn egni a hwyl yn y dŵr gyda’i gwrs bownsio anferth ar y dŵr, yn cynnwys llithrennau, waliau dringo, trampolinau a pharthau sblashio. Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd, grwpiau ac unrhyw un sydd eisiau seibiant o’r gwres a mwynhau antur.
-
Mae Betws-y-coed yn cynnig anturiaethau o bob math boed hynny ar olwynion, yn y dŵr, i bawennau neu ymhell dan ddaear. Mae rhanbarth ehangach Eryri yn parhau i wella’r hyn mae’n ei gynnig o ran profiadau llawn adrenalin bob blwyddyn, drwy weithgareddau cyffrous mewn coedwigoedd, mynyddoedd a mwyngloddiau.