Lwybr Bwyd Môr Conwy

Dilynwch Lwybr Bwyd Môr Conwy a dewch o hyd i flas yr arfordir, o harbwrs hanesyddol, trefi glan môr prysur, i fwytai annibynnol, gwerthwyr pysgod, gwinllannoedd a chynhyrchwyr bwyd leded Sir Conwy. Gan ddathlu treftadaeth gorol gadarn yr ardal, a chysylltiad agos â’r môr, mae’r llwybr yn dod â lleoedd ynghyd lle gall ymwelwyr fwynhau bwyd môr ffres, cynnyrch lleol a lletygarwch croesawgar Cymru.

Yr hyn sy’n gwneud Llwybr Bwyd Môr Conwy yn arbennig yw’r bobl. O gogyddion a bwytai i bysgotwyr, tyfwyr llysiau a chyflenwyr lleol, mae pob arhosiad ar y llwybr wedi’i siapio gan angerdd am safon, tarddiad a phrofiadau bwyd cofiadwy. Boed yn gregyn gleision a gasglwyd yn ffres o Gonwy, pysgod tymhorol Cymreig, bwydlen arbennig o fwyd môr, bwytai ar yr arfordir neu ddewis gofalus o winoedd lleol, mae’r llwybr yn cynnig cyfle i ymwelwyr archwilio’r blasau, yr hanesion a’r tirluniau sy’n gwneud yr ardal hon yng Ngogledd Cymru’n unigryw.

Blasu’r ardal

Mae Llwybr Bwyd Môr Conwy yn ffordd flasus o brofi arfordir, diwylliant a chymunedau’r sir . Cymerwch eich amser, dewch i gwrdd â’r bobl tu ôl i’r cynnyrch a mwynhau bwyd môr a weinwyd gydag ymdeimlad go iawn o le.

Llwybr Bwyd Môr Cymru

Mae Llwybr Bwyd Môr Conwy yn rhan o Lwybr Fwyd Môr Cymru - siwrnai gastronomegol a diwylliannol ar draws Gogledd Cymru, sy’n arddangos y bwyd môr gorau yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Cewch fwy o wybodaeth yma. 

Archwiliwch Lwybr Bwyd Môr Conwy

O harbwrs hanesyddol i drefi arfordirol bywiog, mae arfordir Conwy yn gyfoeth o dreftadaeth forol, ac yn enwog am ei fwyd môr. Yma, gallwch ganfod lleoedd sy’n gweini cynnyrch lleol, gyda chysylltiad cryf i’r dyfroedd cyfagos a chadwyni cyflenwi lleol.