Llwybr Arfordir Cymru

Castell tywod a chastell go iawn yn nhref ganoloesol Conwy.

Os nad oedd Cymru ar fap cerddwyr y byd o’r blaen, mae’n sicr wedi ennill ei lle arno erbyn hyn.

Yr unig un o’i fath ar y blaned!

Mae’r llwybr yn 870 milltir o hyd.

Peidiwch â phoeni, does dim disgwyl i chi gerdded ar ei hyd ar unwaith.

Bydd y rhan fwyaf o gerddwyr yn dewis darn bach o’r gacen.

Felly, beth allwch chi ddisgwyl ei weld ar ein darn ni o’r llwybr?

Cerddwch i gyfeiriad y gorllewin o Fae Cimel a byddwch yn cerdded wrth ochr un o draethau tywod hiraf Gogledd Cymru i Dowyn a thu hwnt.

Traeth euraid Pensarn yw un o’n cyfrinachau pennaf – anaml iawn y bydd y lle’n brysur.

Yna, ymlaen i Fae Colwyn. Mae’r traeth hwn hefyd yn hollol wych. Hefyd, yn ddiweddar iawn, crewyd traeth di-lanw artiffisial newydd sbon yma ynghyd ag amddiffynfa fôr.

Dilynwch y promenâd yr holl ffordd i bentref prydferth a thawel Llandrillo-yn-Rhos, yna ymlaen dros benrhyn Trwyn y Fuwch (gwych ar gyfer darganfod bywyd gwyllt) i Landudno a’r Gogarth (hyd yn oed yn well ar gyfer bywyd gwyllt, yn ogystal â safleoedd hanesyddol difyr).

Nesaf, dewch at aber Afon Conwy â’r mynyddoedd yn y cefndir a thref ganoloesol eithriadol Conwy, ei chastell Safle Treftadaeth y Byd a golygfeydd i gyfeiriad Eryri.

Ymlaen ar hyd yr arfordir, â’r mynyddoedd unwaith eto yn gefnlen drawiadol, i Benmaenmawr a Llanfairfechan, dwy gyrchfan glan-môr Fictoraidd hyfryd.

Gallwn gynnig dewis o lwybrau i chi yn y fan hyn – o Gonwy i Lanfairfechan, mae’n bosibl dilyn llwybr gwahanol i gyfeiriad y mynyddoedd.