Loga a Myfyrdod
Mae Sir Conwy’n lleoliad perffaith i arafu, anadlu ac adfer eich ymdeimlad o gydbwysedd. O ddosbarthiadau stiwdio tawel i sesiynau awyr agored yn llawn ysbrydoliaeth o’r arfordir a chefn gwlad, mae modd mwynhau amrywiaeth o brofiadau ioga a myfyrdod yn ystod eich ymweliad.
Mae’r dosbarthiadau ar draws y sir yn cynnwys ioga ysgafn, arferion adferol, myfyrdod dan arweiniad ac ymwybyddiaeth ofalgar, ynghyd ag ioga tymhorol yn yr awyr agored ac ar y traeth. Mae mwyafrif y sesiynau’n addas i ddechreuwyr, gyda hyfforddwyr croesawgar sy’n gallu addasu i bob gallu, ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ysbrydoledig o drefi arfordirol a stiwdios gwledig i leoliadau cefn gwlad a choetiroedd.
Ar gyfer rhai sy’n chwilio am arhosiad hirach, mae Conwy hefyd yn cynnig gwyliau ioga a lles, yn amrywio o weithdai dydd i aros am benwythnos.