Pentrefi Dyffryn Elwy

Wedi’i guddio rhwng Dyffryn Conwy a rhostiroedd Mynydd Hiraethog, mae Dyffryn Elwy yn dirwedd heddychlon, hanesyddol o afonydd, bryniau a phentrefi cudd. Mae ei olygfeydd tawel a threftadaeth ddiwylliannol cyfoethog wedi ysbrydoli awduron ers canrifoedd, gan gynnwys Gerard Manley Hopkins, a gipiodd ei harddwch yn berffaith yn ei gerdd In the Valley of Elwy. Mae mwyafrif y dyffryn yn teimlo’r un fath heddiw.