Y Gymraeg

Y Gymraeg yw un o ieithoedd byw hynaf Ewrop, sy’n sylfaen i ddiwylliant a threftadaeth cyfoethog. Fe welwch y Gymraeg ar arwyddion dwyieithog ym mhob man. Mae dros chwarter o boblogaeth Sir Conwy yn siaradwyr Cymraeg, felly fe glywch yr iaith yn cael ei siarad ar ein strydoedd, yn ein trefi a’n pentrefi, ochr yn ochr â’r Saesneg wrth gwrs.

Ymhlith pethau eraill, mae’r iaith delynegol hon yn gwneud Cymru yn wahanol. Ni ddylai achosi unrhyw broblemau na dryswch i chi. Yn wir, gall rhoi cynnig ar siarad yr iaith a thrin a thrafod y gwahanol ynganiadau fod yn llawer o hwyl. Mae’n werth gwneud yr ymdrech, hyd yn oed os ydych ond yn llwyddo i ddweud ychydig o eiriau.

Mae'r iaith hefyd yn datgelu llawer - hynny yw gall enwau lleoedd Cymraeg ddweud llawer wrthych am yr ardal gyfagos. Er enghraifft mae’r gair Llan, fel yn Llanrwst neu Llandudno, yn dangos bod eglwys neu anheddiad crefyddol yn bodoli yno. Mae Aber yn golygu ‘ceg yr afon’ – felly mae Abergele yn golygu ‘Ceg yr Afon Gele’. Pan welwch y gair Llyn ar fap, chwiliwch am y llyn. Os oes mynydd o flaen enw, bydd gennych fynydd i’w ddringo.