Dewch yn Llysgennad Conwy
Mae'n rhad ac am ddim, yn hyblyg ac yn addysgiadol!
Ydych chi’n gweithio yn y sector twristiaeth? Neu hoffech chi ehangu eich gwybodaeth am ein hardal leol? Yna ymunwch â’n Rhaglen Llysgennad Conwy!
Mae Rhaglen Llysgennad Twristiaeth Conwy yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am gynnig twristiaeth Sir Conwy. Bydd y cwrs ar-lein yn darparu gwybodaeth sylfaenol am hanes, treftadaeth, diwylliant, tirlun a gweithgareddau hamdden yr ardal er mwyn gwella profiad ymwelwyr.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
- Unigolion sy’n gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth sy’n dymuno ymestyn eu gwybodaeth
- Unigolion sy’n astudio cyrsiau twristiaeth
- Busnesau sy’n ystyried datblygu sgiliau staff i wella profiad ymwelwyr
- Unrhyw un sy’n byw yn ein hardal neu sydd â diddordeb ynddi ac yn dymuno dysgu mwy am ein cynnig twristiaeth.
Wrth i chi weithio eich ffordd drwy’r cwrs, byddwch yn derbyn gwobr efydd, arian ac aur a byddwch hefyd yn derbyn bathodyn Llysgennad Twristiaeth Conwy a sticer ffenestr. Gellir arddangos y rhain mewn eiddo busnes neu eu hychwanegu at eich portffolio personol.
Os hoffech wybod mwy neu i gofrestru yna gallwch wneud hynny ar ein gwefan - www.conwyambassador.wales