Llety Gwely a Brecwast a Thai Llety yn Sir Conwy
Mae Sir Conwy yn cynnig ystod eang o lety gwely a brecwast, a thai llety, gan gynnig safle cyfforddus ac anffurfiol i ymwelwyr yn ystod eu harhosiad. Gellir canfod y darparwyr llety bach, cyfeillgar hyn ar draws ardaloedd arfordirol a gwledig y sir.
-
Mae nifer o letyau gwely a brecwast a thai llety yn cynnig croeso cynnes, personol a hamddenol i ymwelwyr. Byddwch yn canfod ystod eang o sefydliadau sy’n cael eu rheoli’n annibynnol ledled y sir, gan gynnwys Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos, lle mae darparwyr yn cynnig llety’n agos i amwynderau lleol a’r arfordir
Mae rhai gwestywyr yn dewis rhannu traddodiadau lleol, megis cynnig paned wrth gyrraedd, sy’n helpu ymwelwyr i gael blas ar ddiwylliant lleol.
-
Mae Llety Gwely a Brecwast yn Sir Conwy yn amrywio o dai tref cyfnod o dai llety cyfoes, gyda lleoliadau yn agos i draethau, promenadau, siopau ac atyniadau.
Mae dewis ychwanegol o ardaloedd arfordirol a mewndirol gyda llety gwely a brecwast a thai llety yn cynnwys:
- Deganwy, lle mae llety wedi’i leoli’n agos i lan y môr a’r aber, gan gynnig mynediad rhwydd i deithiau cerdded arfordirol yn ogystal â thref Conwy.
- Bae Colwyn, sy’n cynnwys tai llety a dewis o lety gwely a brecwast o fewn pellter cerdded i ganol y dref a’r promenâd.
- Llandrillo-yn-Rhos, gyda lleoliadau arfordirol ger y traeth a phromenâd i gerddwyr.
I ymwelwyr sydd eisiau lleoliad tawelach, gellir canfod Lletyau Gwely a Brecwast gwledig yn Nyffryn Conwy a’r pentrefi cyfagos, sy’n cynnwys ardaloedd megis Trefriw a Betws-y-coed, lle mae llwybrau cerdded gwledig a hardd yn hygyrch iawn.