Llandrillo-yn-Rhos

Dewch i gael eich swyno gan y croeso traddodiadol yn Llandrillo-yn-Rhos, pentref glan môr hamddenol gyda digon o bethau i’ch difyrru. Mae’r bae’n gwyro’n ysgafn gyda’r glannau gan greu golygfeydd eang dros Fôr Iwerddon a draw tua phentir Trwyn y Fuwch.

Mae’n hyfryd mynd am dro hamddenol ar y promenâd, heibio’r caffis a siopau coffi annibynnol sy’n eich denu i eistedd i lawr, ail-godi stêm a mwynhau’r awyrgylch braf.

I rai sy’n ymddiddori mewn hanes, saif Capel Sant Trillo, un o’r eglwysi lleiaf ym Mhrydain yn ôl y sôn, dafliad carreg o’r môr ac mae cyfoeth o hanes lleol ynddo.

Gyda’r bae bendigedig, caffis cyfeillgar, trysorau treftadaeth a naws hamddenol, mae Llandrillo-yn-Rhos yn ddihangfa berffaith ar yr arfordir.

Awgrym anhygoel: Gosodwch eich cloc larwm ac ewch i’r promenâd yn Llandrillo-yn-Rhos wrth iddi wawrio – mae’n werth yr ymdrech i weld yr haul yn codi yn yr awyr euraid dros lonyddwch y môr, sy’n ffordd fythgofiadwy o ddechrau’r diwrnod.