Conwy

Darganfyddwch swyn Conwy, tref gaerog hanesyddol yn llawn cymeriad, golygfeydd arfordirol a straeon anhygoel.  Yn rhan amlwg o’r nenlinell mae Castell Conwy, caer ganoloesol sy’n safle rhestredig UNESCO a adeiladwyd gan Edward I. Mae modd cerdded ar hyd waliau’r dref i gael golygfeydd trawiadol o’r aber a’r mynyddoedd cyfagos.

Nid oes modd ymweld â Chonwy heb alw draw i weld y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain Fawr, yn amlwg mewn coch ar y cei ceir tŷ a oedd yn gartref i bysgotwr a oedd dros chwe throedfedd o daldra.  Er ei fod yn fychan, mae’n llawn hanes ac yn ymweliad tra gwahanol.

Ewch ar y dŵr gyda theithiau cychod ar hyd Aber Conwy, lle cewch edmygu’r castell o safbwynt newydd, gweld adar y môr, a mwynhau awel y môr.

I’r rhai sy’n hoff o gyffro, mae strydoedd cerrig Conwy’n dod yn fyw wedi iddi nosi gyda straeon ysbryd a theithiau tywys, yn rhannu chwedlau iasol am smyglwyr, ysbrydion a phreswylwyr sydd wedi mynd yn angof.

O hanes a threftadaeth i antur ar yr arfordir a chwedlau dychrynllyd, mae Conwy’n cynnig profiad bythgofiadwy bob tro.