Capel Curig

Am bentref bach yn y mynyddoedd, mae Capel Curig ag arwyddocâd mawr. Ynghanol Eryri a rhai o’r tirluniau mwyaf gwefreiddiol yn y Deyrnas Unedig, dyma hoff le llawer o gerddwyr, dringwyr a phobl sy’n hoff o’r awyr agored.

Mae dau o lwybrau cerdded adnabyddus yn dod drwy’r pentref.  Ewch i’r gogledd orllewin at gopâu creigiog y Glyderau a’r Carneddau, a gweld Tryfan yn bwrw’i gysgod dros Lyn Ogwen. Wrth fynd i’r de ddwyrain, fe gyrhaeddwch odre’r Wyddfa a Bwlch Llanberis, ardal fawreddog a hanesyddol ym myd mynydda.

Mae Capel Curig hefyd yn agos at Lynnau Mymbyr, dau lyn sy’n cynnig rhai o’r golygfeydd godidocaf yng Nghymru: adlewyrchiad Pedol yr Wyddfa yn y dyfroedd digynnwrf.

Doedd yr un lle gwell i sefydlu Plas y Brenin – Canolfan Awyr Agored Cymru, sy’n cynnig cyrsiau ac anturiaethau i bawb, gan gynnwys dechreuwyr, teuluoedd a mynyddwyr profiadol.