Te prynhawn yn Sir Conwy
Mwynhewch de prynhawn hamddenol yn Sir Conwy, lle cewch bopeth o ystafelloedd te traddodiadol a lolfeydd cain mewn gwestai i gaffis clyd yn gweini cacennau, sgons a theisennau crwst cartref. P’un a ydych am faldodi eich hun ar ôl bore o grwydro neu drefnu i gwrdd ar gyfer achlysur arbennig, mae digonedd o leoedd yn cynnig te prynhawn traddodiadol, naws Gymreig a danteithion pleserus.