Gwybodaeth Graddio Llety

Os ydych yn edrych am le i aros ar y wefan hon, efallai y byddwch yn sylwi bod gan rai darparwyr llety sgôr seren. Mae’r sgoriau seren hyn yn cael eu dyfarnu gan gyrff asesu cenedlaethol megis Croeso Cymru a’r AA, a gallant fod o gymorth wrth roi syniad i chi o’r ansawdd a’r cyfleusterau y gallwch eu disgwyl yn ystod eich arhosiad.

Mae sgoriau seren yn amrywio o un i bum seren, ac mae bob corff asesu yn y DU yn defnyddio’r un meini prawf - gan olygu y gallwch gymharu llety gyda sicrwydd ble bynnag y byddwch yn mynd. Mae hi hefyd yn werth nodi ei bod hi’n wirfoddol cymryd rhan yn y cynlluniau sgorio, felly ni fydd gan bob busnes sgôr.

Sylwch: Mae rhestrau llety ar y wefan hon er gwybodaeth yn unig. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn argymell neu’n cymeradwyo unrhyw ddarparwyr unigol, ac awgrymwn y dylid gwirio graddau ansawdd ac adolygiadau cyn cadw lle.