Twristiaeth Deuluol

Oes gennych chi wreiddiau teuluol yng Nghonwy? Ydych chi erioed wedi ystyried darganfod mwy am hanes eich teulu neu ddilyn ôl-traed eich cyndeidiau?

Mae hel achau yn boblogaidd iawn wedi mynd. I’r rheiny sy’n canfod bod eu hachau yn olrhain yn ôl i ardal Conwy, mae gan Wasanaeth Archifau Canolfan Ddiwylliant Conwy adnoddau a staff arbenigol sy’n gallu’ch helpu chi ddysgu mwy am fywydau a bro mebyd eich cyndeidiau. Mae’r cofnodion gwreiddiol sydd ar gael a chadw yn y Gwasanaeth Archifau yn dyddio’n ôl i 1331 ac yn cynnwys cofnodion eglwysi, ysgolion a busnesau, yn ogystal â llawer o fapiau, cynlluniau a ffotograffau. Gallwch weld y cofnodion a gofyn am gyngor gan ein staff yn rhad ac am ddim, yn ogystal â defnyddio cronfeydd data fel Ancestry a Find My Past.

Mae’r Gwasanaeth Archifau wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn nhref Conwy, wrth ymyl muriau hynafol y dref. Yn ogystal â’r archifau mae’r Ganolfan Ddiwylliant yn gartref i lyfrgell groesawgar, arddangosfeydd amgueddfa rhyngweithiol a chaffi. Unwaith rydych chi wedi darganfod lle yng Nghonwy roedd eich cyndeidiau yn byw, beth am fynd am dro a dilyn eu hôl-traed, gan ddarganfod bro eu mebyd a’r caeau a’r strydoedd a oedd yn gyfarwydd iddyn nhw, ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod ar draws eu cartrefi.

Beth am gyfuno hel achau gyda’r gweithgareddau eraill rydych chi wedi’u cynllunio? Gall y tro hwnnw yng nghefn gwlad godidog Conwy fod hyd yn oed yn fwy diddorol petaech yn gwybod bod eich cyndeidiau wedi troedio’r tir dan eich traed hefyd. Neu beth am ymweld ag un o atyniadau’r sir, a galw heibio cartref teuluol eich hen hen nain a taid ar y ffordd?