Pam hysbysebu gyda Dewch i Gonwy?
Dewch i Gonwy yw prif wefan cyrchfan swyddogol ar gyfer Sir Conwy. Hoffem wahodd darparwyr llety, darparwyr atyniadau a gweithgareddau, siopau, siopau bwyd a diod neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â thwristiaeth i gael eu rhestru ar ein gwefan gynhwysfawr. Ein nod yw gwneud Sir Conwy yn gyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein gweithgarwch marchnata yn cynnwys y wefan, cyfryngau cymdeithasol, a Chanolfannau Croeso i hyrwyddo brand Dewch i Gonwy a'n harlwy gwych. Mae llawer i fod yn falch ohono yn Sir Conwy!
Mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan i'w helpu i gynllunio eu teithiau i Sir Conwy ac maen nhw'n cael ysbrydoliaeth a syniadau o dudalennau amrywiol ar draws ein gwefan.
Yn 2025, ymwelodd tua 550,000 o bobl â’n gwefan, gan edrych ar 1.2m o dudalennau gwe, yn cynnwys dros 501,000 o ymweliadau â hysbysebion busnes. Yn ogystal, cafwyd 82,000 o atgyfeiriadau gwefan i wefannau busnes allanol.
Mae Dewch i Gonwy yn weithgar o ran cynhyrchu cyfryngau cymdeithasol a rhannu cynnwys drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gyda chynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol fawr o dros 51,000 o ddilynwyr ar draws ein sianeli Facebook ac Instagram