Cyflwynwch eich digwyddiad i ganllaw Beth Sydd ’Mlaen Dewch i Gonwy

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad yn Sir Conwy ac yr hoffech chi fod ar restr Beth Sydd ’Mlaen Dewch i Gonwy, gallwch gyflwyno eich manylion drwy ein partner rhestru dibynadwy, Data Thistle.

Mae Data Thistle yn trin cyflwyniadau digwyddiadau ar ein rhan, a gallai eich digwyddiad hefyd ymddangos ar eu gwefan nhw ac yn y ffrydiau data maen nhw’n eu darparu i blatfformau trydydd parti penodol.