Credded
Mae Sir Conwy yn cynnig teithiau cerdded i bawb - o deithiau cerdded hawdd i deuluoedd i lwybrau arfordirol hir, heriau yn yr ucheldir, llwybrau treftadaeth, teithiau cylchol drwy’r goedwig ac anturiaethau yn y mynyddoedd. Mae’r traethau, y dyffrynnoedd, y rhandiroedd, y coedwigoedd a’r pentiroedd yn golygu mai dyma un o’r rhanbarthau gorau yng Nghymru i’w archwilio ar droed. Dyma rai enghreifftiau o’r teithiau cerdded sy’n aros amdanoch chi yn y sir.
-
Pa un a ydych chi eisiau taith gerdded iachusol ar hyd y promenadau a’r traethau neu her arfordirol fwy garw, mae gan draethlin Sir Conwy y cyfan.
Beth am ddilyn rhannau o Lwybr Arfordir Cymru, sy'n cynnwys pentiroedd ysblennydd Llandudno, Y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, yn ogystal ag ucheldir mynyddig rhwng Conwy a Llanfairfechan.
-
Mae Dyffryn Conwy yn cynnig golygfeydd godidog, pentrefi heddychlon a llwybrau sy’n gyfoethog o ran treftadaeth leol. Mae teithiau cerdded o gwmpas Trefriw, er enghraifft, yn cyfuno golygfeydd cefn gwlad â diddordeb hanesyddol. Mae’r llwybrau cefn gwlad rhwydd hyn yn ddelfrydol ar gyfer diwrnodau allan hamddenol.n.
-
Mae Parc Coedwig Gwydir yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Sir Conwy ar gyfer cerdded.
Mae ei lynnoedd cudd, ei raeadrau a’i dreftadaeth ddiwydiannol ddiddorol wedi’u cysylltu gan 14 o lwybrau cerdded wedi’u marcio, sy’n dechrau o ganolbwyntiau fel Betws-y-coed a Llanrwst.
Mae’n gymysgedd perffaith o natur, hanes a theithiau cerdded hygyrch drwy goetir.
-
Ar draws y dyffryn, mae Mynydd Hiraethog yn cynnig profiad cerdded hollol wahanol - rhostir agored, coedwig, grug ac awyr eang.
Mae'r rhan dawel hon o Ogledd Cymru, sy’n ddieithr i lawer o bobl wedi’i lleoli o amgylch Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, sy’n fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded heddychlon ar lannau’r llyn a thrwy’r rhostir.