Adloniant Gyda’r Nos
O dafarndai glan môr bywiog i weithgareddau awyr agored anturiaethus, mae gan Sir Conwy ddewis gwych o adloniant gyda’r nos at ddant pawb.
Treulio noson yn Sir Conwy
Ydych chi wedi treulio drwy’r dydd yn archwilio ein dewis anhygoel o atyniadau, ond ddim am i'r hwyl ddod i ben gyda'r nos? Mae Sir Conwy yn trawsnewid gyda’r nos ac yn gartref i nifer o drefi a phentrefi sy'n cynnig amrywiaeth o adloniant. P’un a ydych wrth eich bodd yn mynd i'r theatr, mynd i bartïon neu am barhau i archwilio’r awyr agored, mae gennym amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau i bawb eu mwynhau.
Chi sy'n dewis!
Am gomedi anfarwol ddigrif, cewch weld y comediwyr diweddaraf ar nos Sadwrn pob mis ym Mragdy'r Gogarth yn Llandudno neu Dafarn y Station ym Mae Colwyn. Fel arall, gall y rhai sy'n frwd am fynd i'r theatr fwynhau perfformiadau hudol ac ysbrydoledig yn Venue Cymru, Llandudno! Mae'r theatr yn cynnal goreuon y West End yn rheolaidd, yn ogystal â chyngherddau cerddoriaeth boblogaidd a chynyrchiadau theatrig.
Os byddai’n well gennych chi fwynhau diod dawel, ewch i un o dafarndai traddodiadol y sir sydd fel arfer yn adeiladau cyfnod. Cewch fwynhau peint tra’n gwerthfawrogi hanes cyfnodau a fu.
Neu gallwch fynd i wylio’r ffilm ddiweddaraf yn un o sinemâu'r sir. Chi sy’n dewis!
-
I gael manylion am y digwyddiadau sydd ar gael yn ystod eich ymweliad, ewch i weld ein tudalen Beth sy’n Digwydd. Cynhelir ein rhaglen lawn o wyliau a digwyddiadau drwy’r flwyddyn!
Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth am lefydd i ymweld â nhw yn ystod eich ymweliad â Gogledd Cymru, ewch i weld ein blog sy’n amlygu 7 o’r profiadau gorau gyda'r nos yn y sir
-
Rŵan eich bod chi wedi cael cipolwg ar ein bywyd nos, beth am ddechrau cynllunio ar gyfer eich gwyliau? Byddai ein tîm cyfeillgar yn ein Canolfannau Croeso yn hapus i’ch helpu, a gallan nhw hefyd archebu tocynnau i chi ar gyfer atyniadau a digwyddiadau amrywiol. Ffoniwch nhw ar 01492 577577.