Ydi, mae hi’n sicr werth ymweld â Betws-y-coed. Wedi’i leoli lle mae afonydd, coetir, a golygfeydd o’r mynyddoedd yn uno, mae’r pentref bywiog yma’n un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd i aros ac archwilio Sir Conwy. Mae’n cynnig mynediad hawdd at raeadrau, llwybrau cerdded drwy goedwigoedd, siopau annibynnol, caffis clyd, anturiaethau awyr agored a mannau tawel i aros am ennyd. Pa unai ydych chi’n trefnu diwrnod allan i ymlacio, penwythnos o gerdded neu seibiant sy’n addas i’r teulu yng ngogledd Cymru, mae Betws-y-coed yn ddewis gwych.
Am beth mae Betws-y-coed yn enwog?
Gyda chanol y pentref godidog sydd wedi’i amgylchynu gan afonydd sy’n byrlymu, pontydd allan o straeon tylwyth teg, coedwigoedd rhyfeddol a golygfeydd dramatig o fynyddoedd, mae Betws-y-Coed yn cael ei adnabod fel Porth Eryri. Daeth i amlygrwydd yn y 19eg Ganrif pan ddarganfu artistiaid tirweddau o oes Victoria Betws-y-coed, a chael eu hysbrydoli i baentio’r amgylchedd mawreddog.
Ers hynny mae wedi dod yn lleoliad poblogaidd gyda cherddwyr, ffotograffwyr, artistiaid ac ymwelwyr â gogledd Cymru. Hyd yn oed fel un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn Sir Conwy, mae Betws-y-coed yn llwyddo i gadw ymdeimlad unigryw o bentref Alpaidd.
Mae’r pentref mewn safle unigryw, lle mae tair o afonydd gogledd Cymru yn cwrdd - Llugwy, Lledr a Conwy - gan roi ei leoliad glan yr afon sy’n unigryw i Fetws-y-coed. O amgylch y pentref, fe welwch chi bontydd cerrig, llwybrau deiliog, siopau annibynnol, llefydd i fwyta ac aros, a mynediad hawdd at lwybrau drwy’r coedwigoedd. Mae’n teimlo’n ddigon prysur i fod ag amgylchedd bywiog, ond eto mae’n ddigon agos i fod yng nghanol natur o fewn ychydig funudau.
I nifer o ymwelwyr, mae Betws-y-coed yn gweithio’n arbennig o dda gan ei fod yn cyfuno cyfleuster gyda golygfeydd. Gallwch gyrraedd ar gludiant cyhoeddus, crwydro drwy’r pentref, mwynhau mynd am dro ger yr afon, ymweld â rhaeadr, cael cinio mewn caffi neu dafarn glyd, a dal bod ag amser am antur yn y goedwig cyn ei throi hi am adref.
Y 5 prif beth i’w gwneud ym Metws-y-coed
Un o’r rhesymau mwyaf dros ymweld â Betws-y-coed yw’r amrywiaeth o bethau i’w gwneud yn y pentref a’r dalgylch. Gallwch gael diwrnod o ymlacio gyda’r siopau, caffis a llwybrau cerdded byr, neu gael amser mwy anturus gyda llwybrau drwy’r goedwig, rhaeadrau a gweithgareddau adrenalin gerllaw.
1. Dŵr, dŵr, ym mhobman!
Ble bynnag yr ewch chi ym Metws-y-coed, allwch chi ddim dianc rhagddo, mae dŵr ym mhobman! Boed yn ddyfroedd gwyllt rhaeadr, glaw yn disgyn o’r awyr neu Afon Llugwy yn byrlymu drwy’r pentref, mae dŵr yn diffinio Betws-y-coed.
Mae hyn yn cynnwys Pont y Mwynwyr a Rhaeadr Ewynnol. Croeswch dros Bont y Mwynwyr tra bod afon Llugwy yn llifo oddi tanodd, mae’n brofiad anhygoel! Gerllaw, mae Rhaeadr Ewynnol yn nwfn yng Nghoedwig Gwydir. Yma mae’r dŵr yn disgyn yn ddramatig drwy geunant cul, coediog.
2. Ewch i gerdded
Mae’r pentref yn ganolbwynt i gerddwyr, dringwyr a beicwyr ond mae’n boblogaidd gydag ymwelwyr dydd a theuluoedd hefyd. Maent yn cael eu denu gan y golygfeydd hardd a’r lleoliad hygyrch. Mae cerdded yng ngwead Betws-y-coed, a does yna ddim llawer o lwybrau cerdded gwell na’r llwybr i fyny at Lyn Elsi. Mae’r llwybr yn serth mewn rhannau ond mae’n dilyn llwybr wedi’i farcio yr holl ffordd, gan ei wneud yn ffordd syndod o hygyrch o brofi’r awyr agored.
3. Darganfyddwch dreftadaeth leol a swyn pentrefol
Mae yna ddetholiad hyfryd o siopau a llefydd i fwyta yma. O enwau mawr y siopau awyr agored, yn cynnwys Cunninghams a Blacks, i berlau lleol megis Anna Davies a Galeri, mae yna rywbeth at ddant a chyllideb pawb. Mae gennych chi ddigonedd o ddewis pan fydd hi’n amser bwyta hefyd. Rhowch gynnig ar Y Stablau yng ngwesty’r Royal Oak i fwynhau awyrgylch tafarn brysur, neu am rywbeth cwbl wahanol, rhowch gynnig ar de prynhawn yn yr enwog Tŷ Hyll - mae’r bwyd yn bell o fod yn hyll!
4. Hen Eglwys Sant Mihangel
Wedi’i guddio y tu ôl i’r orsaf drenau, fe ddewch chi o hyd i Hen Eglwys Sant Mihangel. Wedi’i leoli mewn llecyn prydferth yn ymyl yr afon, fe arferai’r eglwys hon fod yn galon i fywyd y pentref ar un tro. Yn wir, Sant Mihangel a enwodd Betws-y-coed. Yr ystyr yn fras ydi ‘tŷ gweddi yn y coed’, ac allem ni ddim meddwl am enw mwy addas.
Mae hi werth ymweld â’r eglwys am ei nodweddion hanesyddol diddorol a’i lleoliad heddychlon. Mae’r coed ywen yn y fynwent yn fwy na pum canrif oed, tra bod yr eglwys ei hun yn gartref i ddelw carreg ysblennydd o farchog canoloesol a bedyddfaen o’r 13eg Ganrif.
5. Llwybr Coed Tan Dinas
Mae’r llwybr cylchol hygyrch yma drwy’r coed yn gyflwyniad ysgafn i’r awyr agored. Gan ddechrau ger Pont-y-Pair, mae’n dilyn llwybr i fyny’r afon ar lwybr pren llydan sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau. Ar hyd y ffordd, gallwch ymlwybro o dan goed Ffynidwydd Douglas, dysgu mwy am gynefinoedd coetir lleol o’r byrddau dehongli, ac aros ger y byrddau neu feinciau picnic sydd wedi’u lleoli ar hyd y llwybr. Mae’n ffordd heddychlon o ddianc o fwrlwm y pentref a mwynhau amgylchedd naturiol Betws-y-coed.
Ydi Betws-y-coed yn lle da i ddod am y dydd?
Ydi, mae Betws-y-coed yn lle gwych i ddod am y dydd, yn enwedig os ydych chi eisiau cymysgedd o olygfeydd, bwyd, siopa ac ychydig o antur. Mae’n ddigon bach i grwydro o gwmpas ar droed ond mae hi’n werth nodi bod y palmentydd yn y pentref yn gul mewn mannau a dylai ymwelwyr sydd ag anghenion hygyrchedd gynllunio ymlaen llaw.
Diwrnod syml fyddai crwydro o gwmpas y pentref, yna paned neu frecinio, mynd rownd y siopau ac ymweld â Llyn Elsi, Rhaeadr Ewynnol neu Bont y Mwynwyr. I gael ysbrydoliaeth, pam na wnewch chi daro golwg ar ein hamserlen i fwynhau diwrnod ym Metws-y-coed?
Ydi hi werth ymweld â Betws-y-coed am benwythnos?
Mae Betws-y-coed yn lle gwych i leoli eich hun am benwythnos. Mae llety yn amrywio o westai a thafarndai i leoliadau Gwely a Brecwast, bythynnod, lleoliadau hunan-arlwyo, gan olygu ei fod yn addas ar gyfer cyllidebau gwahanol a steiliau gwahanol o deithio. Gallwch chwilio am lety ym Metws-y-coed yma.
Mae Betws-y-coed yn apelio i bob math o ymwelwyr, ond mae sicr yn addas i gyplau sydd eisiau seibiant gyda golygfeydd, teuluoedd sy’n chwilio am weithgareddau awyr agored, cerddwyr a beicwyr sydd eisiau mynediad hawdd at lwybrau. Mae hefyd yn wych i gŵn; fe fydd gennych gymaint o ddewis o ble i fynd â nhw am dro! Mae yna gymaint o lefydd i aros, bwyta ac yfed sydd yn barod i groesawu eich cyfeillion pedair coes.
Gan ddefnyddio Betws-y-coed fel lleoliad i archwilio’r ardal, mae Parc Cenedlaethol Eryri ar stepen y drws, gallwch gymryd Rheilffordd Dyffryn Conwy i’r arfordir neu’r mynyddoedd, ac mae ucheldiroedd Hiraethog yn hygyrch mewn car, ar feic ac ar gludiant cyhoeddus.
Pryd ydi’r amser gorau i ymweld?
Mae Betws-y-coed yn gyrchfan y gellir ymweld â hi gydol y flwyddyn, ond mae’r amser gorau i ymweld yn dibynnu ar beth yr ydych eisiau ei wneud ar eich taith.
Gwanwyn: gwyrddni newydd, afonydd sy’n byrlymu ac amodau da i gerdded. Mae eira dal i’w weld ar gopaon y mynyddoedd, ond mae yna ffresni yn yr aer ac mae’r coetiroedd yn llawn adar yn trydar.
Haf: mae hi’n fywiog, gyda diwrnodau hirach ar gyfer anturiaethau a diwrnodau allan fel teulu. Ymlaciwch ar gae’r pentref, neu padlwch yn yr afon, dyma dymor euraidd Betws!
Hydref: mae’n eithriadol o hardd pan mae’r coetiroedd o’n cwmpas yn rhoi sioe o liw sydd yn gallu cystadlu â lliwiau New England. Mae hefyd yn amser delfrydol i weld eogiaid sy’n ymfudo yn llamu eu ffordd i fyny afon Llugwy.
Gaeaf: mae tymor y Nadolig ym Metws-y-coed yn hudolus: meddyliwch am goedwigoedd bytholwyrdd, goleuadau’n disgleirio, caffis clyd a siopa tymhorol. Fyddai neb yn gweld bai arnoch chi am feddwl eich bod chi yn yr Alpau.
Os ydych chi’n ymweld yn ystod cyfnodau prysur y gwyliau, cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer parcio, archebu lle i fwyta ac atyniadau poblogaidd. I gael profiad sydd yn fwy ymlaciol, ystyriwch gyrraedd yn gynnar yn y dydd neu aros dros nos er mwyn i chi fwynhau’r pentref ar gyflymder mwy hamddenol.
Llefydd Eraill i Ymweld â Nhw yn yr Ardal
Mae Betws-y-coed yn lleoliad gwych i archwilio Dyffryn Conwy, Eryri ac arfordir gogledd Cymru’n ehangach. Os ydych chi’n aros am benwythnos neu eisiau troi trip diwrnod mewn i amserlen lawnach, mae yna sawl lle gerllaw sydd yn werth eu hychwanegu at eich cynlluniau.
Llanrwst
Dyma un o’r llefydd hawsaf i’w gyrraedd o Fetws-y-coed. Mae’r dref farchnad hanesyddol hon yn eistedd ar lannau Afon Conwy ac mae’n enwog am ei siopau annibynnol, caffis, llwybrau ar hyd glannau’r afon ac ystafell de Tu Hwnt i’r Bont sydd yn enwog mewn lluniau.
Trefriw
Pentref hyfryd sydd â theimlad heddychlon, traddodiadol. Ewch i ymweld i fwynhau golygfeydd wrth ochr yr afon, llwybrau cerdded a Melin Wlân Trefriw, lle gallwch weld tecstilau Cymreig yn cael eu cynhyrchu a mwynhau’r anrhegion sy’n cael eu creu’n lleol.
Capel Curig
Dewis da os ydych chi eisiau mwy o olygfeydd y mynyddoedd heb deithio’n bell. Wedi’i leoli ar y ffordd tuag at galon Eryri, mae’n cynnig golygfeydd dramatig, llwybrau cerdded a beicio a thirweddau mynyddig.
Dolwyddelan
Yn ddelfrydol i ymwelwyr sydd yn mwynhau hanes a chefn gwlad tawel. Mae’r castell Cymreig yma’n sefyll mewn lleoliad mynyddig trawiadol ac mae yna olygfeydd rhyfeddol sydd yn profi ei bwysigrwydd strategol yn y dyddiau a fu.
Conwy a Llandudno
Mae’r perlau arfordirol yma o fewn cyrraedd hefyd os ydych chi eisiau cyfuno mynyddoedd gyda’r môr. Mae Conwy, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, yn cynnig muriau’r castell, swyn arfordirol a strydoedd hanesyddol, tra bod Llandudno, Brenhines Cyrchfannau Cymru, yn cynnig hwyl glan y môr traddodiadol, dau draeth a bywyd nos bywiog.
Felly, ydi hi werth ymweld â Betws-y-coed?
Yn bendant! Mae hi werth ymweld â Betws-y-coed gan ei fod yn cynnig cyfuniad clasurol gogledd Cymru o harddwch naturiol, antur awyr agor a swyn cynnes pentref. Mae yna olygfeydd heb fod yn anghysbell, mae yna ddigon i fod yn actif ac ymlacio hefyd, ac mae’n ddigon hyblyg i chi allu stopio’n sydyn, treulio diwrnod llawn yma neu aros yn hirach. Dechreuwch gynllunio eich ymweliad heddiw!
Cwestiynau Cyffredin am ymweld â Betws-y-coed
Ydi hi werth ymweld â Betws-y-coed os mai dim ond un diwrnod sydd gen i.
Ydi. Mae Betws-y-coed yn gyrchfan gwych am ddiwrnod gan fod canol y pentref, llwybrau glan yr afon, siopau, caffis a sawl atyniad yn agos at ei gilydd. Gallwch fwynhau amserlen ymlaciol heb orfod brysio.
Ydi Betws-y-coed yn dda i deuluoedd?
Ydi. Mae Betws-y-coed yn addas i deuluoedd, gyda llwybrau cerdded byr, golygfeydd hardd wrth yr afon, yr amgueddfa reilffordd ac atyniadau antur gerllaw. Gall teuluoedd gyda phlant iau gael diwrnod hamddenol, tra bod teuluoedd gyda phlant hŷn a phlant yn eu harddegau’n gallu mwynhau mwy o’r dewisiadau actif gerllaw.
Allwch chi ymweld â Betws-y-coed heb gar?
Gallwch. Mae yna orsaf reilffordd ym Metws-y-coed a chludiant cyhoeddus lleol, ac mae modd cyrraedd nifer o lwybrau ac atyniadau’r pentref trwy gerdded. Mae bws Fflecsi Dyffryn Conwy hefyd yn helpu i gysylltu’r pentref gyda chymunedau, atyniadau a llwybrau cerdded gerllaw, gan ei gwneud hi’n haws i archwilio heb gar.
Faint o amser ddylwn i ei dreulio ym Metws-y-coed?
Gallwch fwynhau Betws-y-coed mewn ychydig oriau, ond trwy ymweld am ddiwrnod llawn, mae gennych chi amser i fynd am dro, bwyta, siopa a mwynhau atyniadau gerllaw. Mae aros am benwythnos yn ddelfrydol os hoffech chi archwilio mwy o’r goedwig, rhaeadrau, Eryri a Dyffryn Conwy’n ehangach.
Ydi Betws-y-coed yn dda pan mae hi’n glawio?
Ydi, er fe fyddwch chi angen dillad ac esgidiau addas. Gall glaw wneud i’r afonydd a rhaeadrau edrych hyd yn oed yn fwy dramatig, ac mae gan y pentref ddewis da o bethau i’w gwneud dan do megis caffis, siopau ac orielau celf. Cofiwch wirio beth yw’r amodau cyn mynd am deithiau cerdded hirach.
Prif bethau i’w gwneud o amgylch Betws-y-Coed
Y Rhaeadr Ewynnol
Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon…
Llwybrau Cerdded o Bont y Pair yng Nghoedwig Gwydir
- Pont y Pair
Mae’r gyfres hon o lwybrau cerdded cyn dechrau o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-Coed ac yn…
Taith Rhaeadr Ewynnol yng Nghoedwig Gwydir
- Ty'n Llwyn
Mae llwybr cerdded yn dechcrau o faes parcio Ty'n Llwyn i raeadr enwog o'r enw Rhaeadr…
Galeri
- Holyhead Road
Mae Galeri Betws-y-Coed yn dangos detholiad sy’n newid o hyd o baentiadau, printiau, lluniadau…
Y Stablau - Gwesty’r Royal Oak
- Royal Oak Hotel
Mae’r Stablau ym Metws-y-Coed yn far a bwyty sy’n angerddol am flas a chynnyrch lleol…
Hen Eglwys Sant Mihangel
- Old Church Road
Mae Eglwys Sant Mihangel rhwng y rheilffordd ac Afon Conwy ar gyrion Betws-y-Coed. Adeiladwyd yr…
Rheilffordd Dyffryn Conwy
- Railway Station
Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…
Anna Davies
- Holyhead Road
Erbyn heddiw Anna Davies yw manwerthwr annibynnol mwyaf yr ardal. Rydym yn gwerthu amrywiaeth fawr o…
Tŷ Hyll
- Capel Curig
Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…
Ystafell De Tŷ Hyll
- Tŷ Hyll
Fe adeiladwyd y Tŷ Hyll ym 1485, ac mae’n cael ei redeg fel ystafell de deuluol bellach…
Taith Llyn Elsi trwy Goedwig Gwydir
- St Mary's Church
Mae’r daith hon yn cychwyn o Eglwys y Santes Fair yng Ngwydyr ac yn dringo trwy’r coetir…
Melin Wlân Trefriw
- Main Road
Dewch i’n siop i weld blancedi tapestri traddodiadol Cymreig wedi’u gwehyddu ar y safle…
Ystafell De Tu Hwnt i'r Bont
Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig Gradd II o’r 15fed Ganrif ac yn ystafell de…
Castell Dolwyddelan
Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. Mae Dolwyddelan mor Gymreig…