Gwledd i’r synhwyrau: blaswch y gaeaf yng Nghonwy

Mae gaeaf yng Nghonwy yn cynnwys oedi uwchben pryd o fwyd da, rhannu sgyrsiau hir a darganfod blasau’r tymor. O brydau tafarn cysurus a phrydau Cymreig modern i gynnyrch lleol a phrofiadau bwyta bythgofiadwy, fe gewch yma ddigon o gynhesrwydd a llefydd croesawgar i fwyta ac yfed.

Fel rhan o’n hymgyrch Croesawu’r Gaeaf, archwiliwch gynigion bwyd a diod Nadoligaidd, bwydlenni partis Nadolig, te prynhawn a digwyddiadau bwyd arbennig. Pa un ai ydych chi’n trefnu pryd o fwyd i ddathlu rhywbeth, dal i fyny efo ffrindiau neu ddiod boeth ar ôl diwrnod tu allan, darganfyddwch ffyrdd blasus i fwynhau’r gaeaf yng Nghonwy.

Dyma wahoddiad i chi fwynhau rhai o flasau Conwy’r gaeaf yma!