Gwybodaeth am y Dreth Ymwelwyr ar gyfer Busnesau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd yn archwilio a ddylid ymgynghori ar Ardoll Llety Ymwelwyr. Darperir yr wybodaeth hon i helpu busnesau i ddeall y cynnig a sut y gallai’r camau nesaf edrych. Nid yw unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch cyflwyno ardoll.

Yr Amserlen i Wneud Penderfyniad a’r Hyn mae’n ei olygu i Fusnesau

  • Mai 2026 – Ymgynghoriad wedi'i gymeradwyo

    Cymeradwyodd Cyngor Conwy ar 14 Mai 2026 i ni fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir.

    Ymarfer ymgynghori yn unig yw hwn, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar hyn o bryd. Bwriedir casglu adborth cynhwysfawr gan drigolion, busnesau, rhanddeiliaid ac ymwelwyr.

    Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 9 wythnos o 20 Mai 2026 tan 17 Gorffennaf 2026. Cyhoeddir manylion y digwyddiadau yn fuan.

  • Yn fuan ym mis Medi 2026 – Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle
    Fe fydd holl adborth yr ymgynghoriad (yn cynnwys ymatebion yr arolwg, cyfarfodydd a sylwadau ysgrifenedig) yn cael eu hadolygu a’u crynhoi mewn adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle. Fe fydd y pwyllgor yn trafod y canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth.

 

  • Diwedd mis Medi 2026 – Cyngor Llawn
    Y Cyngor llawn fydd yn penderfynu mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr ai peidio.
    Os caiff ei gymeradwyo, y dyddiad cychwyn cynharaf posibl fyddai 1 Hydref 2027, ar ôl y cyfnod rhybudd gofynnol o 12 mis i’r Awdurdod Refeniw Cymru. Fe fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn rheoli’r gwaith o  gofrestru llety ymwelwyr a chasglu’r ardoll ymwelwyr.

Ardoll Ymwelwyr – Cwestiynau Cyffredin

Am wybodaeth i ymwelwyr, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin i Ymwelwyr