Canolfan Fusnes Conwy

Canolfan Fusnes Conwy

Mae Canolfan Fusnes Conwy yn cynnig mannau hyblyg, proffesiynol ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant, cynadleddau a digwyddiadau.  O ystafelloedd cyfarfod bach i neuadd gynhadledd ac arddangos pwrpasol ar gyfer 150 o bobl, mae ein cyfleusterau’n fodern, yn gyfforddus ac mae’r holl gyfarpar yno i gefnogi digwyddiad llwyddiannus.

Mae ganddynt dîm profiadol sydd yn darparu cymorth ar y safle, o ddelio ag ymholiadau i gynnal digwyddiad. Mae lluniaeth lleol o safon uchel ar gael ac mae arlwywyr lleol yn gallu darparu cinio.  Os ydych chi angen man tawel ar gyfer gwaith canolbwyntio neu leoliad ar gyfer digwyddiad mwy, mae Canolfan Fusnes Conwy yn darparu lleoliad croesawgar a phroffesiynol.

 

Swyddfeydd a Gweithleoedd Rhithiol

Yn ogystal â chyfleusterau cynadledda a digwyddiadau, mae Canolfan Fusnes Conwy yn cynnig amrywiaeth o becynnau swyddfa rhithiol, yn cynnwys gwasanaethau gohebiaeth busnes, anfon post ymlaen, a rhifau ffôn llinell dir penodol.

Maent hefyd yn cynnig swyddfeydd sydd ar gael i’w prydlesu am yr hirdymor.  Er bod pob swyddfa’n llawn ar hyn o bryd, maent yn croesawu ymholiadau gan y rhai a hoffai gael gwybod pan fydd swyddfa’n wag.  Defnyddiwch y manylion cysylltu isod i gael eich ychwanegu at eu rhestr aros: