Prosiect Adfer y Colonadau
Rydym yn falch o rannu’r newyddion bod prosiect adfer y Colonadau wedi'i gwblhau’n llwyddiannus bellach. Fel un o dirnodau arfordirol mwyaf adnabyddus ein hardal, mae pwysigrwydd hanesyddol a gwerth sentimental i’r Colonadau i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Cafodd ein gwaith diweddar ei gynllunio i ddiogelu’r dreftadaeth hon, gwella diogelwch a gwella’r profiad i ymwelwyr am genedlaethau i ddod.
Yr Hyn Rydym Ni Wedi’i Gyflawni…
-
Bu timau cadwraeth arbenigol yn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i’r strwythur, gan fynd i’r afael â hindreuliad, erydiad a thraul hirdymor. Roedd hyn yn cynnwys:
- Sefydlogi a thrwsio colofnau concrid a gwaith maen
- Clirio ac ailosod system ddraenio
- Trin a disodli gosodiadau rhydlyd
- Rhoi gorchudd amddiffynnol sydd wedi’i ddylunio ar gyfer amgylcheddau arfordirol
Cwblhawyd y gwaith hwn gan ddefnyddio technegau sy’n briodol i gadwraeth er mwyn cadw cymeriad archeolegol y Colonadau.
-
Lle bo’n bosibl, cafodd deunyddiau gwreiddiol eu cadw a’u hadfer yn ofalus. Pan fo angen disodli, cafodd elfennau newydd eu saernïo i gyd-fynd â manylion hanesyddol. Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Ailbwyntio ac ail-orffen gwaith cerrig
- Adfer nodweddion addurno
- Ailbeintio gan ddefnyddio paletau lliw wedi’u cymeradwyo ar gyfer yr ardal dreftadaeth, gan gynnwys ‘Glas Llandudno’
Ein nod oedd ailgyflwyno swyn gwreiddiol y Colonadau wrth sicrhau gwytnwch hirdymor.
-
Er mwyn sicrhau bod y lle yn groesawgar a diogel, rydym wedi gosod:
- Gwell goleuadau
- Canllawiau newydd a balwstrâd ar y grisiau a’r lefel uchaf
Mae’r gwelliannau hyn yn golygu bod y Colonadau yn haws a mwy diogel i’w mwynhau trwy gydol y flwyddyn.
-
Roedd parchu’r lleoliad naturiol ac arfordirol yn flaenoriaeth. Roedd y prosiect yn cynnwys:
- Deunyddiau adfer eco-gyfeillgar
- Dulliau adeiladu effaith isel
- Mesurau i ddiogelu cynefinoedd cyfagos, e.e. Gosod blychau adar ac ystlumod
Roedd cynaliadwyedd yn siapio’r broses gwneud penderfyniadau trwy gydol y prosiect.
-
Mae’r Colonadau wedi’u hadfer yn cynnig lle mwy golau, glân, diogel a deniadol ar gyfer cerdded, ffotograffiaeth, cysgodi rhag y tywydd a mwynhau golygfeydd di-dor ar hyd glan y môr. Mae’r prosiect hwn yn ffurfio rhan o’n hymrwymiad ehangach i ddiogelu asedau treftadaeth a gwella’r profiad i ymwelwyr ar hyd glan y môr.
-
Gyda’r gwaith adfer wedi’i gwblhau bellach, rydym yn canolbwyntio ar gynnal a chadw parhaus ac edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio’r lle fwy, trwy ddigwyddiadau, byrddau dehongli a gwybodaeth i ymwelwyr.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r Colonadau ar eu newydd wedd, gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau eu diogelu.