Prosiect Llysgennad Conwy
Dan Brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Gwella a Diogelu'r Economi Ymwelwyr ar gyfer y Dyfodol, mae Rhaglen Llysgennad Twristiaeth Conwy yn datblygu er mwyn cynnig mwy fyth o effaith. Gan adeiladu ar sylfeini Cynllun Llysgennad Twristiaeth Cymru a lansiwyd yng Nghonwy yn 2019, mae’r prosiect yn cefnogi datblygiad Llysgenhadon, gan wella eu sgiliau a chynnig cyfleoedd ar gyfer cydnabyddiaeth ffurfiol. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu calendr arbennig o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio, sesiynau dysgu a phrofiadau difyr sydd wedi’u dylunio i wella gwybodaeth Llysgenhadon am dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. Trwy roi adnoddau a mewnwelediad i gefnogwyr lleol er mwyn ymgysylltu ymwelwyr mewn ffordd ystyrlon, mae’r cynllun yn chwarae rôl allweddol wrth wella ansawdd a chynaliadwyedd y profiad i ymwelwyr ar draws y rhanbarth.
Mae bod yn Llysgennad Twristiaeth yng Nghonwy yn chwarae rôl bwysig wrth wella'r profiad cyffredinol i ymwelwyr. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y cwrs, cliciwch yma.