Llandudno yn Dathlu Statws Baner Borffor
Llandudno yn Cwblhau ei Daith at Statws Baner Borffor…
Mae Llandudno wedi derbyn achrediad Baner Borffor, yn cydnabod y dref fel lleoliad diogel, croesawgar a bywiog i fwynhau yn ystod y nos.
Mae’r wobr yn dathlu cyrchfannau sy’n cynnig profiad o ansawdd uchel rhwng 5pm a 5am, gan gyfuno llefydd i fwyta, yfed, ymlacio a chael adloniant gyda safonau uchel o ddiogelwch, glanweithdra a gwaith partneriaeth.
I Landudno, mae’r cyflawniad yn nodi carreg filltir. Y dref yw’r cyrchfan cyntaf yng Ngogledd Cymru, a dim ond y trydydd yng Nghymru ar ôl Caerdydd ac Abertawe, i dderbyn statws Baner Borffor. Mae hefyd wedi creu hanes Baner Borffor trwy fod y cyrchfan cyntaf yn y byd i dderbyn yr achrediad, sy’n cynnwys pier o fewn ei ffiniau.
Beth yw’r Faner Borffor?
Mae’r Faner Borffor yn rhaglen achredu a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer canol trefi a dinasoedd. Yn aml, fe’i disgrifir fel yr hyn sy’n cyfateb â Baner Werdd ar gyfer parciau a Baner Las ar gyfer traethau, ond ar gyfer economi nos. Asesir cyrchfannau ar sut maent yn creu profiad difyr, amrywiol ac wedi’i reoli’n dda, ar ôl iddi nosi.
Mae’r rhaglen yn edrych ar ystod eang o ffactorau, gan gynnwys adloniant a chynnig diwylliannol, symudiad o amgylch y dref, mannau cyhoeddus, glanweithdra, gofal i gwsmeriaid, a sut mae sefydliadau lleol yn cydweithio i gefnogi preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Pam cafodd Llandudno ei gydnabod
Roedd cais llwyddiannus Llandudno yn amlygu cymeriad arfordirol unigryw y dref, ei apêl i ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, a’r ystod o gyfleoedd ar gael i fwynhau noson allan. Cafodd Venue Cymru ei gydnabod fel lleoliad adloniant a diwylliannol mawr, tra bod lleoliad naturiol y dref, y promenâd, busnesau lletygarwch a mannau cyhoeddus yn cyfrannu at gryfder y cais.
Gwnaed yr achrediad yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a alluogodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sefydlu Gweithgor Baner Borffor aml-asiantaeth ac arwain y broses ymgeisio.
Roedd yr aseswyr yn canmol y dull cydweithredol a gymerwyd gan sefydliadau, busnesau gwirfoddolwyr a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Cafodd cyfraniad y Tîm Tacluso gwirfoddol hefyd ei gydnabod, gydag aelodau’n gweithio ar y cyd â gwasanaethau stryd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu cadw’r drefn yn lân, croesawgar a deniadol.
Cyflawniad ar y Cyd
Meddai’r Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rydym wrth ein boddau bod Llandudno wedi derbyn statws Baner Borffor. Dyma gyflawniad gwych i’r dref ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi economi nos diogel, croesawgar a bywiog.
“Hoffwn ddiolch i’r Gweithgor Baner Borffor, busnesau lleol, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner a gydweithiodd i helpu arddangos cryfderau cynnig nos Llandudno.”
Edrych i’r Dyfodol
Mae statws Baner Borffor yn ddathliad o’r hyn mae Llandudno eisoes yn ei gynnig ac yn fframwaith ar gyfer gwelliant parhaus. Mae’n cefnogi gwaith partneriaeth parhaus i gryfhau economi nos y dref, adeiladu hyder ac annog mwy o bobl i fwynhau Llandudno ar ôl iddi nosi.
O dripiau i’r theatr a pherfformiadau byw i lefydd i fwyta, mynd am dro ac awyrgylch cyrchfan croesawgar, mae achrediad Baner Borffor Llandudno yn atgyfnerthu ei enw da fel cyrchfan i fwynhau yn y dydd a’r nos.
Mae rhaglen y Faner Borffor, sy’n cael ei gweinyddu gan y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd, yn cydnabod trefi a dinasoedd sy'n cynnig profiad rhagorol gyda'r nos ac yn y nos. Mae achrediad yn dathlu lleoedd sy'n cydbwyso:
- Diogelwch
- Gweithgareddau amrywiol
- Diwylliant bywiog
- Gwaith partneriaeth cryf
- Awyrgylch croesawgar i bawb
Bydd eich adborth yn helpu i ganfod cyfleoedd i wella economi nos Llandudno a chefnogi datblygiad amgylchedd bywiog, amrywiol a diogel ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu partneriaid lleol i ddeall profiadau ymwelwyr, canfod meysydd i’w gwella a chefnogi’r dref i gynnal ei statws Baner Borffor fel cyrchfan croesawgar, wedi’i reoli’n dda ar ôl iddi nosi.
I gwblhau ein holiadur, cliciwch yma.
Edrych yn ôl ar siwrnai Llandudno i gyflawni Baner Borffor - cerrig milltir allweddol
Bydd y cais am y Faner Borffor yn cael ei gyflwyno'r gwanwyn hwn, ac yna bydd asesiad annibynnol yn yr haf. Os caiff ei achredu, bydd Llandudno yn ymuno â rhwydwaith cynyddol o drefi a dinasoedd sy'n cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu heconomi gyda'r nos ac yn y nos.
Os ydych yn gweld y grŵp Baner Borffor o gwmpas, peidiwch â phoeni. Parhewch i wneud yr hyn a wnewch orau: rhedeg eich busnes, croesawu cwsmeriaid a helpu i ddangos Llandudno ar ei orau.
Byddai cyflawni statws Baner Borffor yn gydnabyddiaeth wych o gynnig nos Llandudno, ac o fusnesau a phartneriaid yn cydweithio i wneud y dref yn ddiogel, cynhwysol a boddhaus i drigolion ac ymwelwyr.
Llandudno wedi derbyn statws Baner Borffor! Ym Medi 2026, derbyniodd Llandudno achrediad Baner Borffor, yn cydnabod y dref fel lleoliad diogel, croesawgar a bywiog i fwynhau yn ystod y nos. Mae’r wobr yn dathlu cyrchfannau sy’n cynnig profiad o ansawdd uchel rhwng 5pm a 5am, gan gyfuno llefydd i fwyta, yfed, ymlacio a chael adloniant gyda safonau uchel o ddiogelwch, glanweithdra a gwaith partneriaeth.
I Landudno, mae’r cyflawniad yn nodi carreg filltir. Y dref yw’r cyrchfan cyntaf yng Ngogledd Cymru, a dim ond y trydydd yng Nghymru ar ôl Caerdydd ac Abertawe, i dderbyn statws Baner Borffor. Mae hefyd wedi creu hanes Baner Borffor trwy fod y cyrchfan cyntaf yn y byd i dderbyn yr achrediad, sy’n cynnwys pier o fewn ei ffiniau.
Datblygwyd Pecyn Gwaith y Faner Borffor i helpu busnesau chwarae rhan weithgar yn y gwaith o greu economi gyda’r nos ac yn ystod y nos Llandudno. Mae’n darparu arweiniad ymarferol, camau syml ac adnoddau parod i helpu creu cyrchfan groesawgar, fywiog a mwy diogel rhwng 5pm a 5am.
P’un a ydych chi eisoes yn rhan o’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig yn ystod y nos, neu’n chwilio am gyfleoedd newydd, mae’r pecyn gwaith wedi’i ddylunio i’ch helpu chi gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Pecyn gwaith y Faner Borffor - English & Welsh
Beth yw'r Faner Borffor?
Paratowch Eich Busnes Ar Gyfer Y Baner Borffor
Preparing Your Business For Purple Flag
Llandudno Purple Flag Zone
Map Of Llandudno's Purple Flag Zone
Night Time Economy Questionnaire A4 Posters
Night Time Economy Questionnaire Poster - Welsh
Night Time Economy Questionnaire Poster - English
Llandudno Goats A4 Posters
Shhh! Please Leave Quietly Poster - Bilingual
Naaa! Bin Your Litter Poster - Bilingual
ATCM logos
ATCM Purple Flag logo - English
ATCM Baner Borffor (Purple Flag) logo - Welsh
Social media assets
Purple Flag award - Facebook square - English
Purple Flag award - Facebook square - Welsh
