Beth am wneud eich siopa Nadolig yn fwy hudolus trwy ymweld ag un o farchnadoedd a ffeiriau tymhorol Sir Conwy. O farchnadoedd artisan yn Llandudno i siopa Nadolig yng Nghonwy a Betws-y-coed, mae digon i ychwanegu i’ch dyddiadur Nadoligaidd. Os ydych chi’n chwilio am anrheg ystyrlon neu eisiau diwrnod Nadoligaidd allan, defnyddiwch ein canllaw sydyn i ddod o hyd i ddyddiadau, amseroedd a phrisiau mynediad.
Marchnadoedd a Ffeiriau Nadolig mis Tachwedd
- Conwy @ Christmas, Conwy
19–22 a 26–29 Tachwedd, 10am–5pm. Mynediad am ddim.
Gwybodaeth am ddigwyddiad Conwy @ Christmas - Marchnad Nadolig Blas a Chrefft, Eglwys y Drindod, Llandudno
20–21 Tachwedd, o 9.30am. Mynediad am ddim.
Manylion Marchnad Nadolig Blas a Chrefft - Marchnad Nadolig Artisan, Providero, Llandudno
21 Tachwedd, 10am-4pm. Mynediad £1; am ddim ar ôl 2pm.
Manylion marchnad Providero - Marchnad Macabre Gogledd Cymru, Venue Cymru, Llandudno
21 Tachwedd, 11am-4pm. Mynediad am ddim.
Manylion marchnad Nadolig arswydus - Marchnadoedd Nadolig, Canolfan Fictoria, Llandudno
21 Tachwedd, 9am–5pm; 22 Tachwedd, 9am-4.30pm. Mynediad am ddim.
Manylion Marchnad Canolfan Fictoria - Ffair Grefft ac Anrhegion Nadolig, Venue Cymru, Llandudno
22 Tachwedd, 10am-4pm. Oedolion £1; dan 16 oed am ddim.
Manylion Ffair Grefft ac Anrhegion Nadolig - Marchnad Nadolig, Llanrwst
28 Tachwedd, 8.30am-1.30pm. Mynediad am ddim. - Ffair Nadolig, Eglwys Sant Ioan, Hen Golwyn
28 Tachwedd, 10am-3pm. Mynediad am ddim.
Gwybodaeth am Ffair Nadolig Eglwys Sant Ioan - Ffair Nadolig Hosbis Dewi Sant, Venue Cymru, Llandudno
28 Tachwedd, 11am-4pm. Oedolion £2; Plant £1; dan 2 oed am ddim.
Manylion Ffair Nadolig Hosbis Dewi Sant - Ffair Nadolig, Eglwys Dewi Sant, Llandrillo-yn-Rhos
28 Tachwedd, 11am-4pm. Mynediad am ddim. - Marchnad Nadolig Eryri a’r Fro, Betws-y-coed
28–29 Tachwedd, 10am-4pm. Mynediad am ddim.
Manylion Marchnad Nadolig Eryri a’r Fro - Marchnad Nadolig Dan Do, Canolfan Ddigwyddiadau Eirias, Bae Colwyn
29 Tachwedd, 10am-4pm. Mynediad £2.50, dan 16 am ddim.
Manylion Marchnad Nadolig Dan Do
Marchnadoedd a Ffeiriau Nadolig mis Rhagfyr
- Marchnad Nadolig Fegan, Neuadd Eglwys Sant Paul, Llandudno
5 Rhagfyr, 10am-3pm. Mynediad am ddim. - Marchnad Nadolig, Neuadd Gymunedol, Llanfairfechan
6 Rhagfyr, 11am-5pm. Mynediad am ddim. - Marchnad Nadolig Artisan, Bwyd Cymru Bodnant
13 Rhagfyr, 10am-4pm. Mynediad am ddim.
Manylion digwyddiad Bwyd Cymru Bodnant - Nadolig ar y Cei, Conwy
18–20 Rhagfyr, 11am-5m. Mynediad o £3.
Manylion digwyddiad Nadolig ar y Cei
Gwnewch ddiwrnod o dymor y Nadolig
Gwisgwch yn gynnes, dewch a’ch rhestr siopa Nadolig a gwnewch amser i bori drwy’r cynnyrch Nadoligaidd yn Sir Conwy. Os ydych chi’n prynu anrhegion neu’n mwynhau diwrnod allan, mae’r ffeiriau a marchnadoedd hyn yn cynnig rheswm i fynd i ysbryd yr ŵyl. Gwnewch ddiwrnod ohoni drwy grwydro mwy o lefydd i siopa a dod o hyd i rywle i fwyta, neu gallwch droi eich ymweliad yn wyliau Nadoligaidd gydag arhosiad mewn llety lleol. Cyn dechrau, gwiriwch y manylion diweddaraf gyda’r trefnydd, gan gynnwys oriau agor, prisiau mynediad ac unrhyw ofynion archebu. Mwynhewch y siopa!