O gadarnleoedd mynyddig i dai tref â ffrâm bren, mae Sir Conwy yn llawn o leoedd sy’n dod â’r Canoloesoedd yn fyw. Mae’r pum perl hanesyddol hyn yn datgelu straeon am dywysogion o Gymru, teuluoedd pwerus, masnachwyr a brenhinoedd, i gyd wedi’u gosod yn erbyn cefndir golygfeydd diamser gogledd Cymru.

P’un a ydych chi’n mwynhau pensaernïaeth ddramatig, mynd am dro heddychlon neu straeon â’u gwreiddiau yn hanes Cymru, mae pob lle yn cynnig ffordd wahanol i archwilio gorffennol canoloesol y sir.

1. Castell Gwydir, Llanrwst

Gwydir Castle stairs LlanrwstMae Castell Gwydir wedi’i osod ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy. Tŷ Cymreig atmosfferig yw’r Castell, ac mae ei wreiddiau'n estyn yn ôl i’r cyfnod canoloesol. Teulu Coetmor wnaeth adeiladu’r rhes gynharaf sy’n dal i oroesi, ac ailadeiladwyd y tŷ tua 1490 gan Maredudd ap Ieuan ap Robert, sylfaenydd llinach ddylanwadol Wynn.

Roedd ychwanegiadau Tuduraidd diweddarach yn cynnwys carreg o Abaty Maenan gerllaw, a datblygodd y tŷ yn un o gartrefi Tuduraidd mwyaf cain Cymru. Gall ymwelwyr grwydro’r tu mewn sy’n ysblennydd, a’r gerddi rhestredig Gradd I lle mae hen goed yw, nodweddion arddull y Dadeni a pheunod yn ychwanegu at yr ymdeimlad o le. Mae’r gwaith adnewyddu parhaus yn stori hynod yn ei rinwedd ei hun, gan gynnwys dychwelyd paneli hanesyddol o Efrog Newydd ar ôl degawdau o fod dramor.  Gerllaw, mae capel gweddi’r teulu – Capel Gwydir Uchaf – yn berl gudd yn Nyffryn Conwy.

2. Hen Eglwys Llangelynin, ger HenrydLlangelynin Church, Henryd

Yn uchel uwchben Dyffryn Conwy ar odre’r Carneddau, mae Hen Eglwys Llangelynin yn cynnig tawelwch, golygfeydd eang a chanrifoedd o hanes. Credir bod corff yr Eglwys yn dyddio o’r 12fed neu’r 13eg ganrif, ac mae nodweddion diweddarach yn cynnwys croglen ganoloesol a tho o’r 16eg ganrif.

Y tu mewn, chwiliwch am y paentiad hynod o’r benglog a'r esgyrn croes ar y wal a thestun crefyddol hanesyddol. Y tu allan yn y fynwent, mae ffynnon sanctaidd sydd wedi’i chysegru i Sant Celynnin, ac fe’i cysylltir yn draddodiadol ag iachau. Mae’r eglwys yn dal i fod yn addoldy, lle i fynd ar bererindod a myfyrio’n dawel, ac mae’r llwybr ati yn rhan o’r profiad. Gwisgwch esgidiau addas gan adael amser i fwynhau’r dirwedd o gwmpas.

(Image courtesy of Mike Hardisty, 2017, via Flickr)

3. Castell Dolwyddelan

DolwyddelanMae Castell Dolwyddelan ar grib creigiog uwchben Dyffryn Lledr a dyma un o’r ychydig o gestyll carreg sydd wedi goroesi a adeiladwyd gan dywysog brodorol o Gymru. Dechreuodd Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr, y gaer ar ôl 1210 i amddiffyn llwybr pwysig trwy’r mynyddoedd a dangos ei awdurdod dros y dirwedd.

Cipiodd Edward I Ddolwyddelan yn 1283, gan godi’r tŵr ac ychwanegu un arall. Yn ystod gwaith adnewyddu diweddarach yn y 19eg ganrif, cafodd y tŵr ei furfylchau arbennig ac mae modd gweld yr uniad rhwng y gwaith carreg canoloesol a’r ychwanegiadau Fictoraidd o hyd. Mae modd cyrraedd y castell ar droed ac mae’n lleoliad agored, ond mae’r golygfeydd ar draws Eryri yn arbennig iawn.

4. Tŷ Aberconwy, ConwyAberconwy House exterior Conwy

Ar Castle Street yng nghanol Conwy, Tŷ Aberconwy yw’r unig dŷ masnachwr canoloesol sydd wedi goroesi yn y dref. Mae pren sy’n dyddio i 1417–20 yn golygu mai hwn yw’r tŷ tref hynaf y gellir bod yn sicr o’i ddyddiad yng Nghymru. Mae’r lloriau isaf o garreg a’r llawr uchaf pren sy’n ymwthio yn cynnig cipolwg ar sut oedd masnachwyr cefnog yn byw a gweithio y tu mewn i’r waliau canoloesol.

Dros y canrifoedd, mae’r adeilad wedi’i ddefnyddio gan fasnachwyr cynnyrch a mwynau, fel gwesty dirwest ac fel siop hen bethau. Cafodd ei achub rhag cael ei ddatgymalu a’i anfon i’r Unol Daleithiau cyn cael ei drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1934. Heddiw, mae siop lyfrau ail law ar y llawr gwaelod. Mae’n lle hyfryd o ran treftadaeth i alw heibio wrth grwydro strydoedd hanesyddol Conwy.

5. Castell Conwy a waliau’r dref

Adeiladwyd Castell Conwy ar gyfer Edward I gan Meistr James o Lansan Sior rhwng 1283 a 1287. Mae’n un o gaerau canoloesol mwyaf trawiadol Ewrop. Mae wyth tŵr yn codi uwchben yr aber ac mae’r tu mewn sydd wedi’i gadw’n hynod o dda, yn cynnwys y set fwyaf cyflawn o randai brenhinol canoloesol yng Nghymru.

Gallwch ddringo’r grisiau troellog sydd wedi’u hadnewyddu i ddilyn y murfylchau a gweld golygfeydd o’r harbwr, strydoedd hanesyddol a mynyddoedd Eryri. Mae’r castell yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ochr yn ochr â chaerau gwych eraill Edward I ym Miwmares, Caernarfon a Harlech.

Parhewch â’ch taith ganoloesol ar hyd llwybrau waliau tref Conwy, sy’n 1.3 cilomedr o hyd. Mae mynediad am ddim, ond gall rhannau unigol gau dros dro ar brydiau, felly gwiriwch y wybodaeth ddiweddaraf cyn i chi ymweld. Mae’r llwybrau o amgylch y castell a’r waliau yn cynnwys grisiau serth a chul ac arwynebau anwastad.

A view across the water of Conwy Castle at night, lit up

Cynllunio eich antur ganoloesol

Gellir mwynhau’r pum lle hwn ar wahân neu gellir eu cyfuno i greu gwyliau treftadaeth ar draws Sir Conwy. Gall oriau agor a threfniadau mynediad newid gyda’r tymhorau, felly gwiriwch gyda phob lleoliad cyn mynd. Gadewch ragor o amser ar gyfer ffyrdd gwledig, llwybrau cerdded a’r golygfeydd bythgofiadwy.

Barod i ddatgelu mwy o straeon? Beth am archwilio mwy o gestyll, tai hanesyddol, eglwysi ac atyniadau treftadaeth ar draws Sir Conwy wrth i chi gynllunio eich ymweliad.