Bychan ond hynod o hardd, dyna Gonwy yn ei hanfod. Mae’r dref gaerog fechan hon wrth geg Aber Afon Conwy yn cyfuno castell canoloesol dramatig, rhai o waliau tref o’r safon uchaf yn Ewrop, harbwr gweithredol, siopau annibynnol a bwyd lleol gwych. Mae’n hawdd crwydro o amgylch y dref mewn diwrnod, ond efallai byddwch yn dymuno aros yn hirach gan fod cymaint i’w weld a’i wneud!

Am beth mae Conwy yn adnabyddus?

Mae Conwy yn fwyaf adnabyddus am ei gastell anhygoel a’i waliau tref hanesyddol. Mae Castell Conwy, a adeiladwyd gan Edward I yn y 13eg ganrif, yn amlwg iawn ar y nenlinell ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae ei dyrrau, murfylchau a golygfeydd ar draws yr aber yn ei wneud yn un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru.

Mae waliau’r dref yn uchafbwynt mawr arall. Maent yn ymestyn am tua thri chwarter milltir o amgylch calon ganoloesol Conwy, gyda 21 tŵr a thair adwy wreiddiol. Mae cerdded ar hyd y waliau yn rhoi golwg unigryw i chi o’r dref ac yn eich helpu i ddeall pam fod Conwy wedi ei ystyried yn safle strategol mor bwysig i’r Cymry a’r Saeson.

Ond mae Conwy yn fwy na dim ond castell, mae hefyd yn gartref i ddwy breswylfa arbennig arall. Mae tŷ coch bychan iawn ar Gei Conwy yn honni i fod y lleiaf ym Mhrydain Fawr tra bod Plas Mawr ar y Stryd Fawr yn dŷ tref wedi ei adnewyddu’n hyfryd.  Gyda’r cei hyfryd, teithiau cwch dyddiol, llawer o siopau a chaffis annibynnol, mae Conwy yn cynnig llawer i’w weld a’i wneud o fewn pellter cerdded rhwydd!

Pum profiad angenrheidiol yng Nghonwy

1. Crwydro Castell Conwy

Dechreuwch gyda Chastell Conwy os mai dyma eich ymweliad cyntaf. Rhowch amser i ddringo’r tyrrau, edrych ar y golygfeydd o’r aber a gweld gweddillion y Neuadd Fawr a’r rhandai brenhinol. Mae safle’r castell uwch ben y dref yn ei wneud yn bwynt cychwyn naturiol ac yn un o’r lleoedd gorau i ddeall hanes Conwy.

2. Trechu waliau tref Conwy

Mae cerdded waliau tref Conwy yn un o’r ffyrdd gorau i wybod ble ydych chi ac i weld y dref o uchder. O’r llwybr uchel hwn, mae golygfeydd gwych tuag at y Gogarth a Môr Iwerddon, gallwch edrych draw at odre’r Carneddau a mwynhau edrych tuag at Ddyffryn Conwy. Mae stepiau mynediad ar amrywiol fannau o amgylch y waliau, gyda byrddau gwybodaeth yn amlygu’r nodweddion allweddol a mannau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Gellir ymweld â’r waliau am ddim, ond mae’r llwybr yn cynnwys stepiau, arwynebau anwastad a mannau agored, felly maent yn fwy addas i ymwelwyr sy’n gyffyrddus ag uchder.

3. Treulio amser yn y dref

Os nad ydych yn hoff o uchder, cewch grwydro strydoedd cul Conwy ble mae amrywiaeth eang o siopau annibynnol a lleoedd diddorol i fwyta, gan gynnwys bwyty Dylan's yng Nghonwy, Parlwr Hufen Ia Parisella a bwyty Jackdaw sydd wedi ennill gwobrau..  Mae Eglwys y Santes Fair yng nghanol Conwy ac yn werth ymweld â hi i weld y tu mewn hynafol a’r fynwent hynod, ac mae Pont Telford yn dathlu 200 mlynedd yn 2026. Dylai Plas Mawr, o bosib y tŷ tref gorau o Oes Elisabeth, fod ar eich rhestr o bethau i’w gweld os ydych yn gwerthfawrogi treftadaeth a manylion hanesyddol. Gyda hanes hynod o ddiddorol, mae gan Blas Mawr fwy na digon o straeon arswydus hefyd.  Fel llawer o Gonwy, honnir bod ysbrydion yno. Ydych chi’n ddigon dewr i glywed mwy? Gwrandewch ar ein podlediad!

4. Sefyll yn dal yn y tŷ lleiaf

Ewch i lawr i’r cei ac ymweld ag annedd fwyaf anarferol Conwy. Gan honni i fod y tŷ lleiaf ym Mhrydain Fawr, mae’r tŷ bach hwn yn llai na 2 fedr o led ac ychydig yn fwy na 3 medr o uchder. Hefyd, ar un adeg roedd pysgotwr 6 troedfedd 3 modfedd yn byw yno! Mae’r cei hefyd yn borth gweithredol, byddwch yn gweld pysgotwyr yn gwneud eu gwaith dyddiol. Rydym yn argymell ymweld â depo prosesu cregyn gleision Conwy i wybod mwy am y cynnych lleol unigryw hwn a sut mae’n cael ei gasglu. Gallwch hyd yn oed brynu ychydig i fynd adref gyda chi, yn ffres o’r môr! 

5. Cerdded i Draeth Morfa Conwy

Os oes gennych fwy o amser, ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i Draeth Morfa Conwy. Mae’r llwybr dymunol hwn yn wastad yr holl ffordd ac mae golygfeydd gwych o Ddeganwy a Llandudno. Ar hyd y ffordd mae cyfleoedd i grwydro Coed Bodlondeb neu stopio ym Marina Conwy. Mae Tafarn Mulberry ar ochr y marina ac mae ganddi deras mawr, heulog yn berffaith i wylio’r byd yn mynd heibio. Parhewch ar hyd llwybr yr arfordir i gyrraedd Traeth Morfa Conwy. Yng ngheg aber afon Conwy, mae’r traeth hwn yn un tywodlyd, eang pan fydd llanw isel. Yr un mor ddeniadol pan fo’r llanw i mewn, mae twyni i’w gweld a blaendraeth graeanog ar oleddf sy’n berffaith ar gyfer chwilota glan môr.

Pryd yw’r amser gorau i ymweld â Chonwy?

Gellir ymweld â Chonwy gydol y flwyddyn, ond y gwanwyn, yr haf a dechrau’r hydref sydd orau i wneud y mwyaf o’r golygfeydd o’r castell, cerdded ar hyd y cei a theithiau ar gwch.

Y Gwanwyn: gallwch fynd am dro gwanwynol heulog ar Fynydd Conwy, os ydych yn lwcus efallai byddwch yn gweld merlod y Carneddau yn eu cynefin naturiol.

Yr haf: tymor mwyaf bywiog Conwy, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau gan gynnwys Gŵyl yr Afon Conwy a Phenwythnos y Môr-ladron. Mae’r dref yn byrlymu gydag ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Yr hydref: yn dawelach ond yn ddim llai deniadol, mae’r hydref yng Nghonwy yn eich gwahodd i grwydro mewn tymereddau is a mwynhau nosweithiau clud yn un o sawl tafarn yn y dref sydd â thanau agored

Y Gaeaf: mae’r strydoedd yn disgleirio ac mae ffenestri’r siopau’n Nadoligaidd. Mae Conwy yn croesawu’r gaeaf gyda Gŵyl Gaeaf flynyddol y dref pan fydd y lle’n llawn marchogion yn cario tortshys tân. 

A yw Conwy’n le da i ddod am y dydd?

Ydy. Mae Conwy yn un o’r dewisiadau gorau i ddod am y dydd yng Ngogledd Cymru gan fod cymaint o’r uchafbwyntiau yn agos at ei gilydd. Gallwch ymweld â’r castell, cerdded rhan o waliau’r dref, crwydro o amgylch y cei, mynd i weld y Tŷ Lleiaf a mwynhau cinio neu goffi heb angen teithio’n bell rhwng bob dim.

Ar ôl dweud hynny, mae aros dros nos yn rhoi mwy o amser i chi arafu, mwynhau’r dref ar ôl i’r ymwelwyr dydd adael a chrwydro ardaloedd eraill ledled Sir Conwy. Os ydych yn trefnu gwyliau byr, mae Conwy hefyd yn gweithio’n dda fel lle i aros ar gyfer Llandudno, Deganwy, Gardd Bodnant, Betws-y-coed, Dyffryn Conwy ac arfordir ehangach Gogledd Cymru.

I bwy mae Conwy fwyaf addas?

Mae Conwy yn ddewis cryf i rai sy’n hoff o hanes, cyplau, teuluoedd, ffotograffwyr, cerddwyr ac unrhyw un sy’n edrych am le bychan gyda digon o gymeriad. Mae cyfuniad y dref o dreftadaeth ganoloesol, golygfeydd arfordirol a lleoedd annibynnol i fwyta a siopa yn ei gwneud yn hawdd addasu ymweliad ar gyfer diddordebau gwahanol.

Efallai y bydd ymwelwyr sydd â symudedd cyfyngedig yn cael rhai atyniadau hanesyddol yn fwy heriol oherwydd stepiau, llwybrau serth, arwynebau anwastad a waliau uchel. Fodd bynnag, mae canol y dref, y cei, siopau a chaffis dal yn cynnig digon o bethau i’w mwynhau ar lefel y ddaear.

Lleoedd cyfagos i’w hychwanegu i’ch ymweliad

Mae Conwy mewn safle gwych rhwng yr arfordir, cefn gwlad a’r mynyddoedd ac o fewn cyrraedd nifer o fannau sy’n rhaid ymweld â nhw yn Sir Conwy, gan gynnwys:

Llandudno

Mae gan Landudno y pier, y promenâd, Tramffordd y Gogarth a’r Ceir Cebl. Mae Deganwy yn cynnig golygfeydd glan y môr ar draws yr aber, tra bod Gwarchodfa Natur Conwy RSPB yn ddewis heddychlon ar gyfer gwylio adar a mynd am dro.

Dyffryn Conwy

Ymhellach i’r mewndir, mae gan Ddyffryn Conwy Ardd Bodnant hardd, tref marchnad hanesyddol Llanrwst a phrif drysor Eryri, Betws-y-coed. Mae Conwy yn le gwych i grwydro Dyffryn Conwy, gyda dewisiadau i fynd ar drên, mewn car ac ar feic yn bosib o’r fan hyn.

Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos

Ymwelwch â Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos am ddiwrnod traddodiadol ar lan y môr. Yn ddiweddar mae’r traeth wedi cael ailddatblygiad sy’n werth sawl miliwn o bunnoedd ac mae’r cyfleusterau yma yn wych, yn arbennig i deuluoedd a chyplau.

Felly, pryd fyddwch chi’n ymweld â Chonwy?

Mae hi’n werth ymweld â Chonwy gan fod llawer i’w weld mewn tref fechan, hawdd cerdded o’i hamgylch. Nid oes llawer o gyrchfannau yn cyfuno un o gestyll gorau’r byd, waliau canoloesol cyflawn, golygfeydd arfordirol, tirnodau diddorol, bwyd da a mynediad hawdd at weddill Gogledd Cymru. Os oes gennych ychydig o oriau, diwrnod llawn neu benwythnos, Conwy yw un o’r lleoedd gorau i ymweld ag o ar arfordir Gogledd Cymru.

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn ag ymweld â Chonwy

Prif bethau i’w gwneud o amgylch Conwy

Plas Mawr

  • High Street

Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…

The Mulberry

  • Ellis Way

Gyda seddau awyr agored yn edrych dros y marina, mae The Mulberry yn lle gwych i ymlacio a mwynhau…

Gardd Bodnant

  • Tal y Cafn

Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd Bodnant…

The Jackdaw

  • High Street

O fewn muriau tref gaerog ganoloesol Conwy y mae The Jackdaw, bwyty gan y Cogydd Nick Rudge…