Y traethau gorau yng Nghonwy, Gogledd Cymru

Ydych chi’n chwilio am y traethau gorau yng Ngogledd Cymru? Mae arfordir Conwy yn llawn llefydd i badlo, chwarae, mynd am dro neu i fwynhau gwynt y môr. Yn ymestyn o Lanfairfechan yn y gorllewin i Fae Cinmel yn y dwyrain, mae ein traethau’n cynnig popeth o hwyl glan y môr traddodiadol a chyfleusterau teuluol i lecynnau mwy distaw o dywod a graean lle gallwch arafu a mwynhau’r olygfa.

Diwrnodau glan y môr clasurol yn Llandudno a Bae Colwyn

Ar gyfer diwrnod traddodiadol ger y môr, ni ellir curo traethau Llandudno a Bae Colwyn. Mae Traeth y Gogledd yn Llandudno, gyda’i fae ysgubol, promenâd hardd a phier enwog yn creu awyrgylch cyrchfan heb ei ail, ac er ei fod yn ddistawach, mae Penmorfa yn ganolbwynt ar gyfer chwaraeon dŵr a gwylio’r machlud. Mae traethau Bae Colwyn/Llandrillo-yn-Rhos a Phorth Eirias gerllaw, yn cynnig traethau tywodlyd eang gyda digon o le i gestyll tywod, picnic a dro glan y môr, yn ogystal â mynediad hawdd at gaffis, siopau ac atyniadau gerllaw. Dyma’r llefydd i ymweld â nhw i gael y profiad arfordirol llawn: awyr iach, golygfeydd o’r môr, gweithgareddau i’r teulu a’r cyfleustra o dref glan y môr bywiog gerllaw. 

Traethau distawach a golygfeydd arfordirol

Os oes well gennych chi rhywle ychydig mwy heddychlon, mae Sir Conwy yn cynnig hynny hefyd. Mae Abergele Pensarn  yn draeth poblogaidd gydag ymwelwyr sydd eisiau amser hamddenol, gyda thraeth hir, promenâd a golygfeydd tuag at Gastell Gwrych. Pan fydd llanw isel, mae lan tywodlyd yn ymddangos, sy’n berffaith ar gyfer chwarae gemau traeth a mynd am dro, tra bod yr ochr graean yn ychwanegu bywyd gwyllt a theimlad mwy gwyllt. Tua’r gorllewin mae Llanfairfechan a Phenmaenmawr yn cyfuno diwrnodau ar y traeth gyda chefndir mynyddig, gan roi cymysgedd o arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru mewn un ymweliad hawdd. Yn chwilio am dawelwch a sŵn y tonnau? Nid oes angen i chi fynd ymhellach na Morfa Conwy ar gyfer llecynnau gwyllt a’r gofod a distawrwydd yr ydych ei angen.

Pethau i’w gwneud ar draethau Conwy

Mae mwy i’n traethau ni na thorheulo. Gall gerddwyr ddewis rhannau o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n dilyn yr arfordir trwy drefi lan y môr, promenadau, pentiroedd a golygfeydd o’r aber. Gall feicwyr ddod o hyd i lwybrau cenedlaethol ar hyd rhannau o’r arfordir, a gall y rhai sy’n hoffi chwaraeon dŵr wneud y mwyaf o’r amodau gwyntog ar draethau addas. Hefyd mae digon o gyfleoedd i wylio bywyd gwyllt, tynnu lluniau a threulio amser heb sgriniau, yn yr awyr agored - gall hynny gynnwys taflu cerrig, gwylio’r llanw neu fwynhau pysgod a sglodion ger y môr.

Cyfleusterau, diogelwch a chynllunio eich ymweliad

Mae’r cyfleusterau’n amrywio o un traeth i’r llall, ond mae gan nifer o gyrchfannau arfordirol Conwy amwynderau defnyddiol gerllaw, gan gynnwys caffis, siopau, toiledau, parcio ac atyniadau tymhorol. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd cynllunio diwrnod cyfan, os ydych yn teithio gyda phlant, cwrdd â ffrindiau, mynd a’r ci am dro neu ychwanegu amser ar y traeth i’ch amserlen ehangach yng Ngogledd Cymru. Cyn i chi ddechrau, mae bob amser yn syniad gwirio gwybodaeth leol ar gyfer amseroedd y llanw, amodau tywydd, cyfyngiadau cŵn a chyngor diogelwch y traeth, yn arbennig os ydych yn ymweld gyda phlant ifanc neu’n bwriadu mynd i’r dŵr. Gwiriwch ein hawgrymiadau diogelwch traeth isod i’ch helpu chi gynllunio a mwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

Traethau i’w mwynhau ymhob tymor

Er bod yr haf yn denu bwcedi, rhawiau a hufen iâ, mae mwy i draethau Conwy na’r misoedd cynhesaf yn unig. Mae’r gwanwyn yn berffaith ar gyfer dro arfordirol a chwilio am fywyd gwyllt; mae’r hydref yn denu awyr eang, promenâd distaw a golau dramatig; ac mae’r gaeaf yn cynnig teithiau cerdded ffres, golygfeydd o’r môr a gwynt sy’n clirio’r pen. Beth bynnag yw’r tymor, mae traeth i gyd-fynd a’ch hwyliau; o draethau cyrchfan bywiog i lecynnau heddychlon lle clywch sŵn y llanw. Paciwch eich bag traeth, gwiriwch ragolygon y tywydd a darganfyddwch pam fod arfordir Conwy yn un o gyrchfannau gorau Gogledd Cymru.