View of landscape at Craig Curig

A ydych chi’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos yng Nghymru?

Mae deddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bawb sy’n gosod llety i ymwelwyr yng Nghymru gofrestru.

O fythynnod i garafanau, ystafelloedd sbâr i gaeau agored, os ydych chi’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos, mae’r gyfraith yn newid. Felly, p’un ai ydych chi’n eu croesawu am un noson, neu eu bod yn aros am gyfnod hirach, rhaid i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru.

Gallwch gofrestru o 10am, ddydd Iau 1 Hydref 2026. Mae’n rhaid i ddarparwyr llety gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf. 

Mae cofrestru’n berthnasol i holl ddarparwyr llety i ymwelwyr, yn cynnwys:

  • Gwesteiwyr achlysurol sy’n rhentu ystafell sbâr bob hyn a hyn
  • Darparwyr proffesiynol sydd ar agor gydol y flwyddyn

Bydd modd i chi gofrestru ar-lein am ddim.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi llunio’r canllawiau cefnogi canlynol i’ch helpu gyda’r broses gofrestru.

Os oes gennych chi gwestiynau gallwch gysylltu Awdurdod Cyllid Cymru yn uniongyrchol drwy glicio yma.