Digwyddiadau yn Sir Conwy
Mae Sir Conwy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn amrywio o wyliau ar raddfa fawr i ddathliadau cymunedol mewn trefi a phentrefi ar draws yr ardal.
-
Cynhelir digwyddiadau bwyd a diod, adloniant byw a dathliadau diwylliannol ar draws Sir Conwy. Mae lleoliadau poblogaidd megis Stadiwm CSM a Venue Cymru yn cynnal cyngherddau, sioeau a pherfformiadau mawr drwy gydol y flwyddyn.
Gall y rhai sy’n hoffi chwaraeon fwynhau gornestau a digwyddiadau mewn lleoliadau yn cynnwys Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Chonwy, gyda gweithgareddau’n amrywio o rygbi a chriced i hwylio a chwaraeon moduro.
-
Ym mis Mai, mae Llandudno’n cynnal Strafagansa Fictoraidd Llandudno, digwyddiad adnabyddus gyda reidiau, stondinau, gorymdeithiau ac injans stêm sy’n denu nifer fawr o ymwelwyr i’r dref.
Yn ystod tymor y Nadolig, mae trefi a phentrefi ar draws y sir yn cynnal marchnadoedd, ffeiriau a dathliadau’r Nadolig, gan gynnig ffordd hamddenol o fwynhau cynnyrch, anrhegion ac adloniant lleol.
-
Mae llawer o drefi llai yn cynnal eu digwyddiadau cymunedol eu hunain drwy gydol y flwyddyn. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys dathliadau fel Diwrnod Prom Deganwy a gwyliau cerdded lleol mewn lleoedd fel Trefriw.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y rhain drwy fynd i’r adran Trefi a Phentrefi ar y wefan.
-
Os ydych yn ystyried ymestyn eich gwyliau i fwynhau digwyddiad, edrychwch ar ein dewisiadau llety. Mae Sir Conwy’n cynnig ystod o leoedd aros, yn cynnwys gwestai, Gwely a Brecwast ac eiddo hunanarlwyo.