Wrth i wyliau’r haf dynnu tua’r terfyn mae Sir Conwy yn paratoi i groesawu ymwelwyr dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Efallai fod y torfeydd yn llai, y dyddiau’n fyrrach a’r tywydd yn fwy cyfnewidiol ond, fel cyrchfan drwy’r flwyddyn, rydym yn falch o gynnig dyddiau allan a phrofiadau cofiadwy waeth pa dymor yw hi.
Os yw prysurdeb yr haf wedi gwneud i chi ysu am ychydig o heddwch a gofod agored, beth am ystyried ymweld â rhai trysorau llai adnabyddus yn Sir Conwy yr hydref hwn. Efallai y cewch eich synnu o ddysgu nad oes rhaid i chi grwydro ymhell i fwynhau’r tawelwch rydych chi’n ysu amdano. Tyrchwch ychydig yn ddyfnach i Gonwy ac fe welwch chi dai gweddi llawn gemau, rhaeadrau hudolus, gerddi cudd, lleoedd heddychlon i fynd am dro a hyd yn oed gweithgareddau hamddenol sy’n addas i’r teulu.
Yn y blog hwn rydym yn rhannu rhai trysorau awyr agored cudd yn Sir Conwy sy’n osgoi’r tyrfaoedd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn… ond shhh, peidiwch â dweud wrth bawb!
1. Capel Gwydir Uchaf ger Llanrwst
Ynghudd uwchben Dyffryn Conwy ger Llanrwst, mae Capel Gwydir Uchaf yn un o’r lleoedd hynny sy’n ddelfrydol i ymwelwyr chwilfrydig a’r rhai sy’n hoff o hanes. Wedi’i adeiladu yn 1673 ar gyfer Syr Richard Wynn o’r teulu Wynn, a oedd yn deulu dylanwadol, nid yw ei wyneb allanol syml o garreg yn datgelu fawr ddim. Camwch i mewn a daw’r gofod yn rhywbeth llawer mwy rhyfeddol, gyda manylion Gothig ac o gyfnod y Dadeni a nenfwd wedi ei baentio sy’n llawn angylion, ceriwbiaid, colomennod a symbolau nefolaidd. Mae wir yn werth i’w weld ac yn un o’r trysorau cudd gorau yn Sir Conwy!
I gyd-fynd â’ch ymweliad ewch am dro ar hyd Llwybr yr Arglwyddes Fair yng Nghoedwig Gwydir, llwybr byr yn y goedwig gyda golygfeydd dros Lanrwst a Dyffryn Conwy. Mae’n ffordd braf o gyfuno treftadaeth, cerdded a golygfeydd mewn un daith.
Mae ymweliadau â’r capel drwy apwyntiad yn unig drwy CADW felly dylai ymwelwyr gadarnhau hygyrchedd cyn teithio. Ceir mwy o wybodaeth yma.

2. Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb, Conwy
O fewn pellter cerdded byr o dref ganoloesol Conwy mae Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb yn cynnig dihangfa heddychlon sy’n agos i ganol y dref a’r cei. Saif y coetir cymysg 7.5 hectar hwn rhwng Parc Bodlondeb a glan deheuol Aber Afon Conwy gan ei wneud yn ddewis hyfryd i ymwelwyr sydd eisiau seibiant braf ym myd natur heb grwydro ymhell o’r dref.
Mae llwybrau troed yn gwau trwy’r goedwig ac mae cyfle i weld adar, ieir bach yr haf a mwy o fywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Cadwch lygad am olygfeydd agored ar draws yr aber tuag at y Gogarth, fe allwch chi hyd yn oed weld Ynys Môn ar ddyddiau clir. Mae’n ddewis da i deuluoedd, pobl sy’n mynd â chŵn am dro ac unrhyw un sy’n chwilio am gyfle i fynd am dro cyn neu ar ôl crwydro canol tref hanesyddol Conwy.

3. Y Graig Lwyd ger Betws-y-coed
Wedi’i leoli mewn coetir brodorol ger Betws-y-coed, mae’r Graig Lwyd yn arhosfan awyr agored atmosfferig lle mae llwybrau yn gwau drwy lennyrch y coetir tuag at raeadr ddramatig. Mae Afon Conwy yn cwympo dros y rhaeadr ac yna’n teithio drwy geunant dwfn Ffos Anoddun, mae’n lle hynod o drawiadol felly sicrhewch fod eich camera’n barod. Mae’r gymysgedd o ddŵr gwyllt, ceunant dramatig a choetir hynafol yn creu tirwedd hudolus sydd fel byd y tylwyth teg.
Mae parc y goedwig yn ehangach yn cynnwys tua 10 acer o goetir brodorol a chaiff ei adnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Ceir mynediad drwy dir Caffi Conwy Falls, adeilad sy’n nodweddiadol o’r 1930au ac wedi ei ddylunio gan Clough Williams-Ellis, a chodir tâl bychan am fynediad. Mae’n arhosfan hudolus i ymwelwyr wrth iddynt grwydro Betws-y-coed, Eryri a Dyffryn Conwy.

4. Gerddi Haulfre, Llandudno
Os hoffech weld trysor hanesyddol awyr agored ewch i Erddi Haulfre ar lethrau isaf Y Gogarth yn Llandudno. Mae’r ardd ffurfiol hardd hon wir yn driw i’w henw fel lle heulog. Cafodd y gerddi eu datblygu yn Oes Fictoria fel rhan o lwybr cerdded hirach o Draeth y Gogledd i Benmorfa – ewch drwy’r gerddi ac ymdroelli ar hyd Llwybr y Llesg i gael y profiad llawn. Fe gewch weld golygfeydd panoramig ar draws Llandudno, Penmorfa a mynyddoedd Eryri.
Peidiwch ag anghofio galw heibio Ystafelloedd Te Haulfre os ydych yn ymweld. Mae’r caffi hyfryd hwn wedi ei adnewyddu’n helaeth a chafodd llawer o arteffactau hanesyddol diddorol eu darganfod yn ystod y gwaith adnewyddu – mae rhai ohonynt yn cael eu harddangos y tu mewn i’r ystafelloedd te. Gyda theras heulog hyfryd a chaffi dan do clyd (sy’n ei wneud yn arhosfan gwych waeth beth fo’r tywydd), gall gwesteion ddisgwyl te prynhawn traddodiadol gyda chacennau cartref, brechdanau a danteithion melys.
5. Drysfa Dyffryn Conwy, Dolgarrog
Os am rywbeth ychydig yn wahanol, beth am fynd ar goll am gyfnod? Wedi’i lleoli yn Nyffryn Conwy rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae Drysfa Dyffryn Conwy yn atyniad awyr agored diwylliannol a llawn hwyl i ymwelwyr o bob oed. Mae’r ddrysfa gymhleth o wrychoedd wedi ei gosod mewn dyffryn hardd ac mae’n gwahodd teuluoedd a grwpiau i grwydro, cael hwyl wrth fynd ar goll a darganfod corneli cudd ar hyd y daith. Yn ychwanegol at hynny mae’r gerddi a’r ddrysfa yn llawn cerfluniau a gwaith celf gan artistiaid lleol ac mae yna oriel fechan wedi ei chysegru i waith Bob Haberfield, ffrind a chyd sylfaenydd y ddrysfa.
Mae Drysfa Dyffryn Conwy ar agor ar benwythnosau drwy gydol yr hydref ac mae’n weithgaredd awyr agored gwirioneddol wahanol i deuluoedd a chyplau sy’n ymweld â Dyffryn Conwy.

6. Cronfa Ddŵr Alwen, Mynydd Hiraethog
Gyda’i dŵr agored eang a lle ceir gwir synnwyr o le, Cronfa Ddŵr Alwen yw un o brofiadau awyr agored mwyaf trawiadol Conwy. Mae’n ymestyn dros 900 acer a dyma’r llyn artiffisial mwyaf yng Nghymru. Gyda’i choedwig epig a’r golygfeydd dros y rhostir, milltiroedd ar filltiroedd o lwybrau gydag arwyddion, mae’n teimlo yn hynod o hamddenol o’i gymharu â’r mannau prysurach i ymwelwyr. Os ydych chi wir eisiau dianc, dyma’r lle i chi.
Mae Llwybr Alwen, sydd ag arwyddion, yn dilyn llwybr cylchol o tua 11km o amgylch y llyn. Gan ddechrau ger Argae Alwen a gan gynnwys rhannau o Fynydd Hiraethog, mae’r llwybr yn addas i gerddwyr, beicwyr a’r rhai hynny sydd ag anghenion o ran hygyrchedd (gyda rhai rhannau garw a mwdlyd ar brydiau). Gerllaw mae Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yn cynnig rhagor o gyfleusterau gan gynnwys caffi a man llogi cyfarpar chwaraeon dŵr, sy’n eich helpu chi i wneud y mwyaf o’r diwrnod yn yr Awyr Agored.

Sut i ddewis y trysor awyr agored cywir ar gyfer eich ymweliad
Yn y pen draw mae’r trysor awyr agored perffaith i chi yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n bersonol yn ei ffafrio, ond dyma fanylion i’ch atgoffa:
Dewiswch Gapel Gwydir Uchaf os ydych chi’n mwynhau treftadaeth gudd a theithiau cerdded byr yn y goedwig neu dewiswch Goed Bodlondeb am ddihangfa gyfleus yng nghanol byd natur sy’n agos i dref Conwy.
Ewch i’r Graig Lwyd i weld golygfeydd hudolus o’r goedwig a’r rhaeadr neu Erddi Haulfre am olygfeydd, gerddi a seibiant mewn caffi yn Llandudno.
Gall teuluoedd fwynhau her Drysfa Dyffryn Conwy tra dylai cerddwyr a beicwyr sy’n chwilio am daith hirach neilltuo amser i fynd i Gronfa Ddŵr Alwen.
Cwestiynau Cyffredin - trysorau cudd Conwy
A ganiateir cŵn yn y trysorau awyr agored hyn?
Mae rhai lleoliadau yn addas i gŵn, gan gynnwys Coed Bodlondeb a Chronfa Ddŵr Alwen, ond mae’r rheolau’n amrywio fesul atyniad. Nid yw Drysfa Dyffryn Conwy yn caniatáu cŵn yn y ddrysfa, felly gwiriwch y manylion i ymwelwyr bob amser cyn cychwyn.
A oes modd i mi ymweld â’r lleoedd hyn drwy’r flwyddyn?
Gellir mwynhau nifer o’r lleoliadau hyn drwy’r tymhorau, ond gall amseroedd agor, trefniadau mynediad a chyfleusterau caffi amrywio. Gwiriwch y manylion cyfredol cyn teithio, yn arbennig ar gyfer Capel Gwydir Uchaf, Y Graig Lwyd, Ystafelloedd Te Haulfre a Drysfa Dyffryn Conwy.
A yw’r trysorau awyr agored hyn yn addas i deuluoedd?
Ydi mae sawl un ohonynt yn addas i deuluoedd, yn arbennig Coed Bodlondeb, Gerddi Haulfre a Drysfa Dyffryn Conwy. Mae’r Graig Lwyd a Chronfa Ddŵr Alwen hefyd yn wych ar gyfer cyfnod yn yr awyr agored, ond dylai ymwelwyr ddewis y llwybrau a’u hesgidiau yn dibynnu ar yr amodau a’u gallu.
Beth yw’r trysorau cudd awyr agored gorau yn Sir Conwy?
Y chwe thrysor awyr agored y sonnir amdanynt yma yw Capel Gwydir Uchaf, Coed Bodlondeb, Y Graig Lwyd, Gerddi Haulfre, Drysfa Dyffryn Conwy a Chronfa Ddŵr Alwen. Gyda’i gilydd maent yn cynnig cymysgedd o dreftadaeth, llwybrau cerdded yn y goedwig, rhaeadrau, gerddi, hwyl i’r teulu a golygfeydd heddychlon y gronfa ddŵr.