Mae amrywiaeth eang o draethau gwych yn Sir Conwy - dyna pam ei bod yn gyrchfan arfordirol mor arbennig i ymweld â hi. P’un a ydych yn chwilio am hwyl glan môr traddodiadol yn Nhraeth y Gogledd Llandudno, lleoliad delfrydol i wylio’r machlud haul ym Mhenmorfa Llandudno, neu’n cerdded ar hyd y promenâd ym Mae Colwyn, mae gan draethau Conwy rywbeth i bawb!
Gyda’i gilydd, mae traethau Sir Conwy yn cynnig cymysgedd o hwyl glan môr traddodiadol, ardaloedd llydan o dywod braf, golygfeydd heddychlon, cyfleusterau hygyrch, llefydd i fynd â’r cŵn am dro a chyfleusterau i’r teulu. P’un a ydych yn cynllunio diwrnod allan yn yr haf, taith gerdded ramantus ar hyd yr arfordir neu daith hwyliog i’r traeth gyda’r plant, mae gan Gonwy draeth ar gyfer hynny.
Ateb sydyn: pa draeth yn Sir Conwy yw’r gorau i chi?
- Awyrgylch glan môr traddodiadol: Traeth y Gogledd Llandudno
- Machlud haul a chyplau: Penmorfa Llandudno
- Teuluoedd a dyddiau ar y traeth: Bae Colwyn
- Teithiau cerdded hygyrch ar hyd yr arfordir: Llandrillo-yn-Rhos
- Golygfeydd tawelach a naws hamddenol: Llanfairfechan
1. Traeth y Gogledd Llandudno: y dewis gorau ar gyfer diwrnod glan môr traddodiadol
Traeth y Gogledd Llandudno yw un o draethau mwyaf eiconig Sir Conwy gyda’r Gogarth, Trwyn y Fuwch a phromenâd Fictoraidd hir yn ei amgylchynu. Mae’n ddewis da ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am naws draddodiadol gyda llefydd i fwyta, siopau, atyniadau hwyliog a golygfeydd o’r môr.
Cerrig mân sydd ar Draeth y Gogledd yn bennaf yn ystod llanw uchel, gyda thywod yn dod i’r golwg wrth i’r llanw fynd allan, felly dyma’r lleoliad delfrydol i fynd am dro hamddenol ar hyd y promenâd, mwynhau seibiant dros hufen iâ neu gyfle i dynnu llun, yn hytrach na threulio diwrnod cyfan ar y traeth. Bydd teuluoedd yn gwerthfawrogi lleoliad cyfleus y traeth gyda chanol y dref gerllaw, y promenâd hir a fflat sy’n 2 filltir o hyd, sy’n ei gwneud yn gyrchfan arfordirol hygyrch hefyd.
Rydym ni wrth ein boddau â’r: Pier hyfryd sy’n diffinio Traeth y Gogledd yn Llandudno, Y pier hiraf yng Nghymru, a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif, sy’n lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr o bob oedran. Cerddwch ar hyd y pier i weld yr olygfa o arfordir a mynyddoedd gogledd Cymru, neu mwynhewch yr holl adloniant sydd ar gael yno, o arcedau adloniant a reidiau ffair i siopau unigryw a bwytai hyfryd.
2. Penmorfa Llandudno: y dewis gorau ar gyfer machlud haul, golygfeydd a thawelwch
Ar ochr arall y Gogarth, ceir naws hamddenol ym Mhenmorfa, Llandudno, mae hefyd yn fwy agored o’i gymharu â Thraeth y Gogledd yn y dref. Ar lanw isel, daw ardaloedd tywod ysblennydd i’r golwg gyda golygfeydd ar draws Bae Conwy tuag at Eryri ac Ynys Môn, sy’n ei wneud yn ddewis hyfryd i gyplau, ffotograffwyr, hedfanwyr barcud ac unrhyw un sy’n mwynhau cerdded yn araf ar hyd yr arfordir.
Mae’n arbennig o hardd yn hwyrach yn y dydd, wrth i’r golau bylu ar draws y bae i amlygu’r machlud haul. Dewch â phicnic gyda chi, cerddwch ar hyd y promenâd, neu oedwch wrth y twyni i fwynhau golygfa dawelach o arfordir Llandudno. Gall teuluoedd fwynhau crwydro ar y traeth yn ystod llanw isel, ond dylai ymwelwyr bob amser fod yn ymwybodol o’r llanw a dilyn y canllawiau diogelwch lleol.
Rydym wrth ein boddau â’r: hyn y mae trigolion lleol yn ei alw yn drysor cudd, Penmorfa yn Llandudno. Mae modd cael mynediad rhwydd at y traeth o ganol y dref. Gallwch ddal y Trên Tir o giatiau’r pier i fwynhau taith odidog o lan i lan. Am brofiad hollol fythgofiadwy, beth am fynd ar daith gyda’r nos o amgylch y Gogarth, gan orffen gyda golygfa ddiguro o’r machlud.
3. Porth Eirias: y dewis gorau ar gyfer teuluoedd, tywod a dyddiau prysur ar y traeth
Bae Colwyn yw un o’r traethau gorau yn Sir Conwy ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am ddigon o le, tywod diddiwedd, a diwrnod llawn ar lan y môr. Mae’r traeth llydan yn cynnig digon o le i blant adeiladu cestyll tywod a chwarae gemau ar y traeth, ac mae’r promenâd, caffis, chwaraeon dŵr a chyfleusterau gerllaw’n ei gwneud yn haws i gynllunio ymweliad hamddenol heb deimlo’n rhy bell o’r hanfodion.
Mae hefyd yn ddewis ymarferol ar gyfer grwpiau oedran cymysg. Mae rhai ymwelwyr wrth eu boddau ar y tywod ac eraill yn mwynhau cerdded ar hyd y promenâd, gan alw am ddiod sydyn neu ymhyfrydu yn y golygfeydd godidog o Borth Eirias. Mae’n draeth gwych i’w fwynhau ar ddiwrnod braf o’r haf, ond mae hefyd yn lleoliad gwych i fynd am dro a mwynhau’r awyr iach a golygfeydd arfordirol y tu allan i’r tymor prysur.
Rydym ni wrth ein boddau â’r: Cymysgedd o arfordir, gweithgareddau a naws gysurus y mae Porth Eirias yn ei gynnig. Mae’r traeth yn wych ar gyfer adeiladu cestyll tywod a gemau glan môr, ac mae digon o lwybrau hyfryd ar hyd yr arfordir yn yr ardal ehangach i fwynhau dro hamddenol. Ar gyfer ymwelwyr sy’n awyddus i grwydro ymhellach i’r môr, mae’r ganolfan chwaraeon dŵr yn cynnig cyfleoedd gwych i fwynhau gweithgareddau mwy anturus yn ystod eich diwrnod teuluol ar y traeth.
4. Llandrillo-yn-Rhos: y dewis gorau i fwynhau taith gerdded hygyrch ar hyd yr arfordir hardd
Ceir profiad glan môr mwy hamddenol yn Llandrillo-yn-Rhos, gyda naws bentrefol, promenâd deniadol, a digon o lefydd gerllaw i fwynhau diod, pryd o fwyd neu dro heddychlon. Mae’n ddewis da ar gyfer ymwelwyr sy’n ysu am wynt iach y môr heb orfod cerdded ymhell neu ar dirwedd heriol. Mae hefyd yn lleoliad cyfleus ar gyfer grwpiau aml-genhedlaeth lle mae angen ystyried anghenion mynediad a lefelau egni gwahanol.
Mae’r promenâd yn gwneud Llandrillo-yn-Rhos yn ddewis cryf ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, sgwteri symudol ac ymwelwyr sy’n chwilio am lwybr mwy fflat, fodd bynnag, dylid gwirio pwyntiau mynediad unigol i’r traeth wrth gyrraedd. Mae hefyd yn lleoliad braf i gyplau sy’n chwilio am lwybrau arfordirol hawdd, cyfleoedd i alw heibio mewn caffis a golygfeydd godidog o’r môr heb y prysurdeb a geir mewn cyrchfannau mwy.
Rydym ni wrth ein boddau â’r: Naws groesawgar, hamddenol yn Llandrillo-yn-Rhos, sy’n ei gwneud yn lleoliad perffaith i fynd am dro hamddenol ar hyd yr arfordir. Mae’r promenâd fflat, caffis gerllaw a’r golygfeydd hyfryd o’r môr yn ei gwneud yn haws i fwynhau’r arfordir ar eich cyflymder eich hun, p’un a ydych yn galw heibio am goffi, yn mynd am dro bach neu’n treulio rhagor o amser wrth y dŵr.
5. Llanfairfechan: y dewis gorau ar gyfer golygfeydd hamddenol ac ymweliadau natur.
Mae Llanfairfechan yn ddewis gwych ar gyfer ymwelwyr sy’n awyddus i fwynhau lleoliadau arfordirol gyda golygfeydd godidog. Rhwng y môr a’r mynyddoedd, mae’n cynnig promenâd traddodiadol, traeth, awyr agored a naws fwy hamddenol o’i gymharu â rhai o’r traethau prysurach i’r dwyrain.
Mae’n addas ar gyfer cyplau, cerddwyr, gwylwyr adar a theuluoedd sy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored yn hytrach na dilyn amserlen orlawn. Pan mae’r llanw’n isel, mae digon o le i grwydro, ac mae’r dirwedd amgylchynol yn creu naws sy’n unigryw i ogledd Cymru: yr arfordir i un cyfeiriad a’r bryniau a’r mynyddoedd i’r cyfeiriad arall.
Rydym ni wrth ein boddau â’r: Naws agored a hamddenol yn Llanfairfechan, ynghyd â’r golygfeydd o’r mynyddoedd y tu ôl i chi a’r arfordir agored o’ch blaen. Mae’n lleoliad gwych i arafu, gwylio’r golau’n newid dros y dŵr, edrych allan am fywyd gwyllt, a mwynhau ochr dawelach arfordir Conwy.
Sut i ddewis y traeth cywir yng Nghonwy
Os ydych chi’n chwilio am gyfleusterau, atyniadau ac awyrgylch glan môr traddodiadol, Traeth y Gogledd yn Llandudno yw’r traeth i chi. Os ydych chi’n awyddus i fwynhau amser teuluol yng nghanol y tywod ar y traeth, mae’n anodd curo Bae Colwyn! Os yw’n well gennych wylio’r machlud haul a naws fwy rhamantus, ewch draw i Benmorfa yn Llandudno. Os yw promenâd fflat a chaffis cyfagos yn bwysig i chi, mae Llandrillo-yn-Rhos yn ddewis ymarferol a hardd. Am ddiwrnod tawel gyda golygfeydd o’r mynyddoedd, Llanfairfechan yw’r traeth i chi.
Awgrymiadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad â thraethau Conwy
- Gwiriwch amseroedd y llanw: Mae rhai traethau’n cynnig llawer mwy o dywod ar lanw isel, ond mae mynediad ac amodau’n gallu newid yn sydyn.
- Cadwch lygad allan am arwyddion lleol: Mae rheolau cŵn, llwybrau mynediad a chyngor diogelwch yn amrywio yn ôl traeth a thymor.
- Defnyddiwch y promenâd lle bo modd: Mae promenadau mewn lleoliadau fel Llandudno, Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos yn ddefnyddiol ar gyfer pramiau, cadeiriau olwyn ac unrhyw un sy’n dymuno cerdded ar lwybr fflat.
- Cynlluniwch yn addas i’ch grŵp: Efallai y bydd ar deuluoedd angen cyfleusterau gerllaw, ond efallai y bydd cyplau, ar y llaw arall, yn chwilio am leoliadau tawelach a llwybrau hardd i wylio’r machlud haul.
- Parchwch yr arfordir: Ewch â sbwriel adref gyda chi, cadwch eich cŵn dan reolaeth, a pheidiwch â tharfu ar fywyd gwyllt.
Am ragor o awgrymiadau ynglŷn â diogelwch ar y traeth, cliciwch yma.
Cwestiynau Cyffredin: Y traethau gorau yn Sir Conwy
Pa draeth yw’r gorau yn Sir Conwy ar gyfer teuluoedd?
Porth Eirias yw un o’r traethau gorau ar gyfer teuluoedd gan ei fod yn cynnig traeth llydan o dywod braf, promenâd, cyfleusterau gerllaw, a digon o le i chwarae gemau traeth. Mae Traeth y Gogledd yn Llandudno hefyd yn ddewis da i deuluoedd sy’n chwilio am atyniadau arfordirol traddodiadol gerllaw.
Pa draeth yng Nghonwy yw’r gorau ar gyfer cŵn?
Mae rhai traethau yng Nghonwy’n croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn ond nid yw nifer yn eu caniatáu (ac eithrio cŵn tywys a chŵn cymorth cofrestredig) rhwng 1 Mai - 30 Medi ac mae rhai yn gwahardd cŵn drwy gydol y flwyddyn. I wirio beth yw’r cyfyngiadau cŵn ar ein traethau, cliciwch yma.
Beth bynnag yw’r cyfyngiadau, fe’ch anogir i sicrhau bod eich ci dan reolaeth bob amser, ar ac oddi ar dennyn. Hefyd, gofynnwn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith. Yn olaf, rhowch faw eich ci mewn bin gwastraff cyfleus.
Pa draeth yw’r gorau yn Sir Conwy ar gyfer cyplau?
Mae Penmorfa Llandudno’n ddewis da ar gyfer cyplau sy’n chwilio am naws dawelach, gyda golygfeydd godidog ar draws Aber Conwy a machludiadau hardd. Mae Llandrillo-yn-Rhos hefyd yn ddewis da os ydych chi’n chwilio am draeth i fynd am dro hamddenol, mwynhau paned o goffi ac ymhyfrydu mewn golygfeydd godidog o’r môr.
Pa draethau yng Nghonwy sy’n addas ar gyfer ymwelwyr anabl?
Mae Llandrillo-yn-Rhos, Traeth y Gogledd Llandudno a Bae Colwyn yn opsiynau addas ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am lwybrau fflat ar hyd y promenâd, yn ogystal â chyfleusterau gerllaw a llefydd i orffwys. Gall mynediad at y traeth ei hun amrywio, felly dylai ymwelwyr ag anghenion symudedd arbennig wirio’r manylion hygyrchedd lleol cyn teithio.
Traethau yn Sir Conwy
Traeth y Gogledd Llandudno
- North Shore
Croeso i Draeth y Gogledd, traeth a phromenâd enwog Llandudno. Mae ymwelwyr wedi bod yn…
Traeth Pen Morfa Llandudno
- West Shore
Os ydych yn chwilio am brofiad arfordirol mwy heddychlon, mae Penmorfa Llandudno yn cynnig…
Traeth Llandrillo-yn-Rhos/Bae Colwyn
Fe ddewch chi o hyd i’r traeth hyfryd yma rhwng Pier Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos. Gyda…
Traeth Porth Eirias
- Porth Eirias
Dewch i ymweld â Thraeth Porth Eirias ym Mae Colwyn a mwynhewch ddiwrnod traddodiadol ar lan y…
Traeth Llanfairfechan
Bae mawr tywodlyd gyda thwyni’n gefndir, yng nghysgod Mynydd Conwy. Gwych i fynd am dro…