Mae Castell Conwy, a’i dyrau eiconig sy’n codi uwchben yr aber yn mor drawiadol ac yn syfrdanu pawb sy’n dod i ymweld. Wedi’i adeiladu gan Edward 1 yn y 13eg ganrif, mae’n  parhau i fod yn un o gaerau canoloesol gorau Ewrop, sy’n arddangos mawredd ac uchelgais cestyll Gogledd Cymru. 

Y tu mewn, o’r neuadd fawr i'r siambrau brenhinol, mae’n hawdd dychmygu sut beth fyddai bywyd rhai canrifoedd yn ôl. 

Drwy gydol yr haf, bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn dod â hanes yn fyw yn y castell. Mae Penwythnos y Môr Ladron ym mis Mehefin yn addo hwyl i deuluoedd â’r gwisgoedd 
ffansi ffantastig, tra bydd perfformiadau a straeon canoloesol drwy gydol mis Gorffennaf yn adleisio hanes Castell Conwy i'r dim. Bydd modd i ymwelwyr ddarganfod hanes treftadaeth y dref hefyd, drwy deithiau tywys o Bont Grog Thomas Telford, sy’n cysylltu â’r castell ac yn enghraifft cynnar o bont o’r math yma. 

I’r rhai sy’n caru hanes, i deuluoedd neu i unrhyw un sydd ar antur drwy’r Gogledd yr haf hwn, mae Castell Conwy yn siŵr o greu argraff ar bawb. 

Am ragor o wybodaeth, ac i brynu tocynau, ewch i: 
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-conwy